Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm neu Gân meibion Cora.
87 Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd. 2 Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob. 3 Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas Duw. Sela. 4 Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn. 5 Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi. 6 Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela. 7 Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.
9 Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd, gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fyny. 10 Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a’ch pladuriau yn waywffyn: dyweded y llesg, Cryf ydwyf. 11 Ymgesglwch, a deuwch, y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynullwch: yno disgyn, O Arglwydd, dy gedyrn. 12 Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd o amgylch. 13 Rhowch i mewn y cryman; canys aeddfedodd y cynhaeaf: deuwch, ewch i waered; oherwydd y gwryf a lanwodd, a’r gwasg-gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu drygioni hwynt. 14 Torfeydd, torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad: canys agos yw dydd yr Arglwydd yng nglyn terfyniad. 15 Yr haul a’r lloer a dywyllant, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. 16 A’r Arglwydd a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; y nefoedd hefyd a’r ddaear a grynant: ond yr Arglwydd fydd gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel.
5 Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf gyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o’r gogoniant a ddatguddir: 2 Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt; nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; nid er mwyn budrelw, eithr o barodrwydd meddwl; 3 Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esamplau i’r praidd. 4 A phan ymddangoso’r Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant. 5 Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i’r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. 6 Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas: 7 Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi. 8 Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu. 9 Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd. 10 A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a’ch perffeithio chwi, a’ch cadarnhao, a’ch cryfhao, a’ch sefydlo. 11 Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.