Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.
65 Mawl a’th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned. 2 Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd. 3 Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei. 4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd. 5 Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr. 6 Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid. 7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd. 8 A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu. 9 Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi. 10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi. 11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster. 12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. 13 Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.
2 Cenwch yr utgorn yn Seion, a bloeddiwch ar fynydd fy sancteiddrwydd: dychryned holl breswylwyr y wlad; canys daeth dydd yr Arglwydd, canys y mae yn agos. 2 Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd: pobl fawr a chryfion, ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith ar eu hôl, hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth. 3 O’u blaen y difa y tân, ac ar eu hôl y fflam; mae y wlad o’u blaen fel gardd baradwys, ac ar eu hôl yn ddiffeithwch anrheithiedig; a hefyd ni ddianc dim ganddynt. 4 Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch; ac fel marchogion, felly y rhedant. 5 Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llamant, fel sŵn tân ysol yn difa y sofl, ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel. 6 O’u blaen yr ofna y bobl; pob wyneb a gasgl barddu. 7 Rhedant fel glewion, dringant y mur fel rhyfelwyr, a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau. 8 Ni wthiant y naill y llall; cerddant bob un ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y cleddyf, nid archollir hwynt. 9 Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mur, dringant i’r tai; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr. 10 O’u blaen y crŷn y ddaear, y nefoedd a gynhyrfir; yr haul a’r lleuad a dywyllir, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. 11 A’r Arglwydd a rydd ei lef o flaen ei lu: canys mawr iawn yw ei wersyll ef: canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef: oherwydd mawr yw dydd yr Arglwydd, ac ofnadwy iawn; a phwy a’i herys?
10 Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hirymaros, cariad, amynedd, 11 Yr erlidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lystra; pa erlidiau a ddioddefais: eithr oddi wrthynt oll y’m gwaredodd yr Arglwydd. 12 Ie, a phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir. 13 Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo. 14 Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod gan bwy y dysgaist; 15 Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.