Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.
65 Mawl a’th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned. 2 Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd. 3 Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei. 4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd. 5 Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr. 6 Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid. 7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd. 8 A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu. 9 Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi. 10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi. 11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster. 12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. 13 Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.
12 Ond yr awr hon, medd yr Arglwydd, Dychwelwch ataf fi â’ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar. 13 A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. 14 Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i’r Arglwydd eich Duw?
15 Cenwch utgorn yn Seion, cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa: 16 Cesglwch y bobl; cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a’r rhai yn sugno bronnau: deued y priodfab allan o’i ystafell, a’r briodferch allan o ystafell ei gwely. 17 Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a’r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o’r cenhedloedd arnynt: paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt?
18 Yna yr Arglwydd a eiddigedda am ei dir, ac a arbed ei bobl. 19 A’r Arglwydd a etyb, ac a ddywed wrth ei bobl, Wele fi yn anfon i chwi ŷd, a gwin, ac olew; a diwellir chwi ohono: ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd. 20 Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu, a gyrraf ef i dir sych diffaith, a’i wyneb tua môr y dwyrain, a’i ben ôl tua’r môr eithaf: a’i ddrewi a gyfyd, a’i ddrycsawr a â i fyny, am iddo wneuthur mawrhydri.
21 Nac ofna di, ddaear; gorfoledda a llawenycha: canys yr Arglwydd a wna fawredd. 22 Nac ofnwch, anifeiliaid y maes: canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch; canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigysbren a’r winwydden a roddant eu cnwd.
46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, 47 A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. 48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. 49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. 50 A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef. 51 Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon. 52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd. 53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion. 54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd; 55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.