Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Can neu Salm.
66 Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear: 2 Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus. 3 Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti. 4 Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela. 5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion. 6 Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo. 7 Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela. 8 O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef: 9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro. 10 Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian. 11 Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau. 12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan i le diwall.
27 Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf, Gwna i ti rwymau a gefynnau, a dod hwynt am dy wddf; 3 Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda; 4 A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi; 5 Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a’r anifail sydd ar wyneb y ddaear, â’m grym mawr, ac â’m braich estynedig, ac a’u rhoddais hwynt i’r neb y gwelais yn dda. 6 Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas; a mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes i’w wasanaethu ef. 7 A’r holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef, a’i fab, a mab ei fab, nes dyfod gwir amser ei wlad ef; yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef. 8 Ond y genedl a’r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a’r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â’r genedl honno, medd yr Arglwydd, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef. 9 Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi, nac ar eich dewiniaid, nac ar eich breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: 10 Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi, i’ch gyrru chwi ymhell o’ch gwlad, ac fel y bwriwn chwi ymaith, ac y methoch. 11 Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon, ac a’i gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun, medd yr Arglwydd; a hwy a’i llafuriant hi, ac a drigant ynddi.
12 Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a’i bobl, fel y byddoch byw. 13 Paham y byddwch feirw, ti a’th bobl, trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, fel y dywedodd yr Arglwydd yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon? 14 Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys y maent yn proffwydo celwydd i chwi. 15 Oherwydd nid myfi a’u hanfonodd hwynt, medd yr Arglwydd; er hynny hwy a broffwydant yn fy enw ar gelwydd, fel y gyrrwn chwi ymaith, ac y darfyddai amdanoch chwi, a’r proffwydi sydd yn proffwydo i chwi. 16 Myfi a leferais hefyd wrth yr offeiriaid, a’r holl bobl hyn, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Na wrandewch ar eiriau eich proffwydi, y rhai sydd yn proffwydo i chwi, gan ddywedyd, Wele, llestri tŷ yr Arglwydd a ddygir yn eu hôl o Babilon bellach ar frys; canys celwydd y maent yn ei broffwydo i chwi. 17 Na wrandewch arnynt; gwasanaethwch chwi frenin Babilon, a byddwch fyw: paham y byddai y ddinas hon yn ddiffeithwch? 18 Ond os proffwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr Arglwydd gyda hwynt, eiriolant yr awr hon ar Arglwydd y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Jwda, ac yn Jerwsalem, i Babilon.
19 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, am y colofnau, ac am y môr, ac am yr ystolion, ac am y rhan arall o’r llestri a adawyd yn y ddinas hon, 20 Y rhai ni ddug Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith, pan gaethgludodd efe Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, o Jerwsalem i Babilon, a holl bendefigion Jwda a Jerwsalem; 21 Ie, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, am y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Jwda a Jerwsalem; 22 Hwy a ddygir i Babilon, ac yno y byddant hyd y dydd yr ymwelwyf â hwynt, medd yr Arglwydd: yna y dygaf hwynt i fyny, ac y dychwelaf hwynt i’r lle hwn.
2 Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. 2 A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd. 3 Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist. 4 Nid yw neb a’r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr. 5 Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon. 6 Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau. 7 Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.