Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Can neu Salm.
66 Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear: 2 Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus. 3 Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti. 4 Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela. 5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion. 6 Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo. 7 Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela. 8 O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef: 9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro. 10 Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian. 11 Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau. 12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan i le diwall.
28 Ac yn y flwyddyn honno, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn, ar y pumed mis, y llefarodd Hananeia mab Asur y proffwyd, yr hwn oedd o Gibeon, wrthyf fi yn nhŷ yr Arglwydd, yng ngŵydd yr offeiriaid a’r holl bobl, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Myfi a dorrais iau brenin Babilon. 3 O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i’r lle hwn holl lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o’r lle hwn, ac a’u dug i Babilon; 4 Ac mi a ddygaf Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i’r lle hwn, medd yr Arglwydd; canys mi a dorraf iau brenin Babilon.
5 Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid, ac yng ngŵydd yr holl bobl, y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd; 6 Ie, y proffwyd Jeremeia a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr Arglwydd: yr Arglwydd a gyflawno dy eiriau di, y rhai a broffwydaist, am ddwyn drachefn lestri tŷ yr Arglwydd, a’r holl gaethglud, o Babilon i’r lle hwn. 7 Eto, gwrando di yr awr hon y gair yma, yr hwn a lefaraf fi lle y clywech di a lle clywo yr holl bobl; 8 Y proffwydi y rhai a fuant o’m blaen i, ac o’th flaen dithau erioed, a broffwydasant yn erbyn gwledydd lawer, ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion, am ryfel, ac am ddrygfyd, ac am haint. 9 Y proffwyd a broffwydo am heddwch, pan ddêl gair y proffwyd i ben, yr adnabyddir y proffwyd, mai yr Arglwydd a’i hanfonodd ef mewn gwirionedd.
10 Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jeremeia y proffwyd, ac a’i torrodd ef. 11 A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl. A Jeremeia y proffwyd a aeth i ffordd.
12 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd, wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia, gan ddywedyd, 13 Dos di, a dywed i Hananeia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gefynnau pren a dorraist ti; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn. 14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Rhoddaf iau o haearn ar war yr holl genhedloedd hyn, fel y gwasanaethont Nebuchodonosor brenin Babilon, a hwy a’i gwasanaethant ef: mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef.
15 Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr Arglwydd mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd. 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear: o fewn y flwyddyn hon y byddi farw, oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd. 17 Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.
12 A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o’r gwahanglwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhau. 13 Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho. 14 Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt. 15 A’r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i’w wrando ef, ac i’w hiacháu ganddo o’u clefydau.
16 Ac yr oedd efe yn cilio o’r neilltu yn y diffeithwch, ac yn gweddïo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.