Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
4 Gwrandewch air yr Arglwydd, tŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel. 5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi, gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf, a rhodio ar ôl oferedd, a myned yn ofer? 6 Ac ni ddywedant, Pa le y mae yr Arglwydd a’n dug ni i fyny o dir yr Aifft; a’n harweiniodd trwy yr anialwch; trwy dir diffaith, a phyllau; trwy dir sychder, a chysgod angau; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dyn ynddo? 7 Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a’i daioni: eithr pan ddaethoch i mewn, halogasoch fy nhir i, a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd‐dra. 8 Yr offeiriaid ni ddywedasant, Pa le y mae yr Arglwydd? a’r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi: y bugeiliaid hefyd a droseddasant i’m herbyn, a’r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal, ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd.
9 Oblegid hyn, mi a ddadleuaf â chwi eto, medd yr Arglwydd; ie, dadleuaf â meibion eich meibion chwi. 10 Canys ewch dros ynysoedd Chittim, ac edrychwch; a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd, ac edrychwch a fu y cyfryw beth. 11 A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd. 12 O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr Arglwydd. 13 Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a’m gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff.
81 Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob.
10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf. 11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai. 12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain. 13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd! 14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr. 15 Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd. 16 Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.
13 Parhaed brawdgarwch. 2 Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod. 3 Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff. 4 Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a’r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. 5 Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith: 6 Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. 7 Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. 8 Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd.
15 Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef. 16 Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
14 Bu hefyd, pan ddaeth efe i dŷ un o benaethiaid y Phariseaid ar y Saboth, i fwyta bara, iddynt hwythau ei wylied ef.
7 Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddameg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf; gan ddywedyd wrthynt, 8 Pan y’th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle uchaf, rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo; 9 Ac i hwn a’th wahoddodd di ac yntau ddyfod, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna dechrau ohonot ti trwy gywilydd gymryd y lle isaf. 10 Eithr pan y’th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo’r hwn a’th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fyny: yna y bydd i ti glod yng ngŵydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd. 11 Canys pob un a’r a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a’r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
12 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti. 13 Eithr pan wnelych wledd, galw’r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion: 14 A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.