Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Asaff.
79 Y cenhedloedd, O Dduw, a ddaethant i’th etifeddiaeth; halogasant dy deml sanctaidd: gosodasant Jerwsalem yn garneddau. 2 Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear. 3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a’u claddai. 4 Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch. 5 Pa hyd, Arglwydd? a ddigi di yn dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân? 6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw. 7 Canys ysasant Jacob, ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd. 8 Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd. 9 Cynorthwya ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ein pechodau, er mwyn dy enw.
8 Yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerwsalem, allan o’u beddau. 2 A hwy a’u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a’r rhai a wasanaethasant, a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a’r rhai a geisiasant, a’r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant. 3 Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd Arglwydd y lluoedd.
4 Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel? 5 Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd. 6 Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i’w yrfa, megis march yn rhuthro i’r frwydr. 7 Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a’r aran, a’r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd. 8 Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr Arglwydd sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion. 9 Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele, gwrthodasant air yr Arglwydd; a pha ddoethineb sydd ynddynt? 10 Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno: canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster. 11 Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch. 12 A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd‐dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr Arglwydd.
13 Gan ddifa y difâf hwynt, medd yr Arglwydd; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a’r ddeilen a syrth; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.
31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? 32 Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; 33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: 34 Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. 35 Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? 36 Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. 37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. 38 Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, 39 Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.