Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 58

I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd.

58 Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a fernwch chwi uniondeb, O feibion dynion? Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear. O’r groth yr ymddieithriodd y rhai annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd. Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau; Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr. Dryllia, O Dduw, eu dannedd yn eu geneuau: tor, O Arglwydd, gilddannedd y llewod ieuainc. Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri. Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul. Cyn i’ch crochanau glywed y mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint. 10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol. 11 Fel y dywedo dyn, Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaear.

Jeremeia 2:23-37

23 Pa fodd y dywedi, Ni halogwyd fi, ac nid euthum ar ôl Baalim? Edrych dy ffordd yn y glyn, gwybydd beth a wnaethost; camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd. 24 Asen wyllt wedi ei chynefino â’r anialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt, wrth ei hachlysur pwy a’i try ymaith? pawb a’r a’i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mis y cânt hi. 25 Cadw dy droed rhag noethni, a’th geg rhag syched. Tithau a ddywedaist, Nid oes obaith. Nac oes: canys cerais ddieithriaid, ac ar eu hôl hwynt yr af fi. 26 Megis y cywilyddia lleidr pan ddalier ef, felly y cywilyddia tŷ Israel; hwynt‐hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, a’u hoffeiriaid, a’u proffwydi; 27 Y rhai a ddywedant wrth bren, Tydi yw fy nhad; ac wrth garreg, Ti a’m cenhedlaist. Canys hwy a droesant ataf fi wegil, ac nid wyneb: ond yn amser eu hadfyd y dywedant, Cyfod, a chadw ni. 28 Eithr pa le y mae dy dduwiau, y rhai a wnaethost i ti? codant, os gallant dy gadw yn amser dy adfyd: canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di, O Jwda. 29 Paham yr ymddadleuwch â mi? chwi oll a droseddasoch i’m herbyn, medd yr Arglwydd. 30 Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.

31 O genhedlaeth, gwelwch air yr Arglwydd: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti? 32 A anghofia morwyn ei harddwisg? neu y briodasferch ei thlysau? eto fy mhobl i a’m hanghofiasant ddyddiau aneirif. 33 Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus. 34 Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed; nid wrth chwilio y cefais hyn, eithr ar y rhai hyn oll. 35 Eto ti a ddywedi, Am fy mod yn ddiniwed, yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf. Wele, dadleuaf â thi, am ddywedyd ohonot, Ni phechais. 36 Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft, fel y’th waradwyddwyd oherwydd Asyria. 37 Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho, a’th ddwylo ar dy ben: oblegid yr Arglwydd a wrthododd dy hyder di, ac ni lwyddi ynddynt.

Hebreaid 13:7-21

Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd. Na’ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd. 10 Y mae gennym ni allor, o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta. 11 Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i’r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i’r gwersyll. 12 Oherwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai’r bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i’r porth. 13 Am hynny awn ato ef o’r tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef. 14 Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl. 15 Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef. 16 Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. 17 Ufuddhewch i’ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di‐fudd i chwi yw hynny. 18 Gweddïwch drosom ni: canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth. 19 Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt. 20 A Duw’r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol, 21 A’ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.