Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 139:1-6

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.

Salmau 139:13-18

13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.

Jeremeia 17:14-27

14 Iachâ fi, O Arglwydd, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant.

15 Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr Arglwydd? deued bellach. 16 Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di. 17 Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd. 18 Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg.

19 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cerdda, a saf ym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr â brenhinoedd Jwda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerwsalem; 20 A dywed wrthynt, Gwrandewch air yr Arglwydd, brenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl breswylwyr Jerwsalem, y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn: 21 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerwsalem; 22 Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i’ch tadau. 23 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando, a rhag derbyn addysg. 24 Er hynny os dyfal wrandewch arnaf, medd yr Arglwydd, heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio y dydd Saboth, heb wneuthur dim gwaith arno: 25 Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a’u tywysogion, gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth. 26 Ac o ddinasoedd Jwda, ac o amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd‐offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr Arglwydd. 27 Ond os chwi ni wrendy arnaf, i sancteiddio y dydd Saboth, heb ddwyn baich, wrth ddyfod i byrth Jerwsalem, ar y dydd Saboth: yna mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi, ac efe a ysa balasau Jerwsalem, ac nis diffoddir.

Mathew 10:34-42

34 Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf. 35 Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a’r ferch yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr. 36 A gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun. 37 Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi. 38 A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof fi. 39 Y neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i, a’i caiff hi.

40 Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 41 Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd, a dderbyn wobr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn. 42 A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.