Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
14 Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni. 2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw. 3 Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 4 Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd. 5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn. 6 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo. 7 Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.
4 Israel, os dychweli, dychwel ataf fi, medd yr Arglwydd: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd‐dra oddi ger fy mron, yna ni’th symudir. 2 A thi a dyngi, Byw yw yr Arglwydd, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder: a’r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo; ie, ynddo ef yr ymglodforant.
3 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth wŷr Jwda, ac wrth Jerwsalem: Braenerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain. 4 Ymenwaedwch i’r Arglwydd, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon, chwi gwŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem: rhag i’m digofaint ddyfod allan fel tân, a llosgi fel na byddo diffoddydd, oherwydd drygioni eich amcanion. 5 Mynegwch yn Jwda, a chyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, Utgenwch utgorn yn y tir: gwaeddwch, ymgesglwch, a dywedwch, Ymgynullwch, ac awn i’r dinasoedd caerog. 6 Codwch faner tua Seion; ffowch, ac na sefwch; canys mi a ddygaf ddrwg o’r gogledd, a dinistr mawr. 7 Y llew a ddaeth i fyny o’i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o’i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a’th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd. 8 Am hyn ymwregyswch â lliain sach; galerwch ac udwch: canys angerdd llid yr Arglwydd ni throes oddi wrthym ni. 9 Ac yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y derfydd am galon y brenin, ac am galon y penaethiaid: yr offeiriaid hefyd a synnant, a’r proffwydi a ryfeddant. 10 Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem, gan ddywedyd, Bydd heddwch i chwi; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid.
2 Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu’r Arglwydd yr hwn a’u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan. 2 A llawer a ganlynant eu distryw hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd. 3 Ac mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwneuthur, y gwnânt farsiandïaeth ohonoch: barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur, a’u colledigaeth hwy nid yw yn hepian. 4 Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a’u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i’w cadw i farnedigaeth; 5 Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir; 6 A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a’u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i’r rhai a fyddent yn annuwiol; 7 Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid: 8 (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:) 9 Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i’w poeni: 10 Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas:
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.