Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 106:40-48

40 Am hynny y cyneuodd dig yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth. 41 Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y cenhedloedd; a’u caseion a lywodraethasant arnynt. 42 Eu gelynion hefyd a’u gorthrymasant; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy. 43 Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun, a hwy a wanychwyd am eu hanwiredd. 44 Eto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt, pan glywodd eu llefain hwynt. 45 Ac efe a gofiodd ei gyfamod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau: 46 Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a’u caethiwai. 47 Achub ni, O Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant. 48 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.

Jeremeia 9:12-26

12 Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr Arglwydd wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd? 13 A dywedodd yr Arglwydd, Am wrthod ohonynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi; 14 Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt: 15 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Wele, mi a’u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl. 16 Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na’u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.

17 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod, 18 A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr. 19 Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y’n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i’n trigfannau ein bwrw ni allan. 20 Eto gwrandewch air yr Arglwydd, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i’ch merched, a galar bob un i’w gilydd. 21 Oherwydd dringodd angau i’n ffenestri, ac efe a ddaeth i’n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a’r gwŷr ieuainc o’r heolydd. 22 Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.

23 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth; 24 Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr Arglwydd a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr Arglwydd.

25 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â’r rhai dienwaededig; 26 A’r Aifft, ac â Jwda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac â’r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf, a’r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig, a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig.

Actau 4:1-12

Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a’r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy; Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu’r bobl, ac yn pregethu trwy’r Iesu yr atgyfodiad o feirw. A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a’u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth: canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. Eithr llawer o’r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi’r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil.

A digwyddodd drannoeth ddarfod i’w llywodraethwyr hwy, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, ymgynnull i Jerwsalem, Ac Annas yr archoffeiriad, a Chaiaffas, ac Ioan, ac Alexander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad. Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynasant, Trwy ba awdurdod, neu ym mha enw, y gwnaethoch chwi hyn? Yna Pedr, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel, Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i’r dyn claf, sef pa wedd yr iachawyd ef; 10 Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi. 11 Hwn yw’r maen a lyswyd gennych chwi’r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i’r gongl. 12 Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.