Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
94 O Arglwydd Dduw y dial, O Dduw y dial, ymddisgleiria. 2 Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion. 3 Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu? 4 Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd? 5 Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant. 6 Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant. 7 Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd; ac nid ystyria Duw Jacob hyn. 8 Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch? 9 Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad? 10 Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn? 11 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt. 12 Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith: 13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol. 14 Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth. 15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl. 16 Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd? 17 Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd. 18 Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O Arglwydd, a’m cynhaliodd. 19 Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid. 20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith? 21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog. 22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a’m Duw yw craig fy nodded. 23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a’u tyr hwynt ymaith.
5 Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnêl farn, a gais wirionedd, a myfi a’i harbedaf hi. 2 Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr Arglwydd, eto yn gelwyddog y tyngant. 3 O Arglwydd, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a’u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd. 4 A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr Arglwydd, na barn eu Duw. 5 Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a wybuant ffordd yr Arglwydd, a barn eu Duw: eithr y rhai hyn a gyd‐dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau. 6 Oblegid hyn llew o’r coed a’u tery hwy, blaidd o’r anialwch a’u distrywia hwy, llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy: pawb a’r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant, eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.
7 Pa fodd y’th arbedwn am hyn? dy blant a’m gadawsant i, ac a dyngasant i’r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynt, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain. 8 Oeddynt fel meirch porthiannus y bore; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog. 9 Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
10 Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei mur‐ganllawiau hi: canys nid eiddo’r Arglwydd ydynt. 11 Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr Arglwydd. 12 Celwyddog fuant yn erbyn yr Arglwydd, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn: 13 A’r proffwydi a fuant fel gwynt, a’r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy. 14 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân, a’r bobl hyn yn gynnud, ac efe a’u difa hwynt. 15 Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr Arglwydd; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, ac ni ddeelli beth a ddywedant. 16 Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll. 17 A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dloda hi â’r cleddyf.
18 Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o’r blaen amdanat, ar filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda; 19 Gan fod gennyt ffydd, a chydwybod dda; yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd: 20 O ba rai y mae Hymeneus ac Alexander; y rhai a roddais i Satan, fel y dysgent na chablent.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.