Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 107:1-9

107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.

Salmau 107:43

43 Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd.

Hosea 8

At dy safn â’r utgorn. Fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ yr Arglwydd, am iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith. Israel a lefant arnaf, Fy Nuw, nyni a’th adwaenom di. Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a’i herlid yntau. Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o’u harian a’u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.

Samaria, dy lo a’th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i’w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd? Canys o Israel y mae; y saer a’i gwnaeth; am hynny nid yw efe Dduw: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria. Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a’i llwnc. Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo. Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau. 10 Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr mi a’u casglaf hwynt: canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion. 11 Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu. 12 Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd. 13 Yn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytânt; yr Arglwydd nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i’r Aifft. 14 Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.

Rhufeiniaid 11:33-36

33 O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a’i ffyrdd, mor anolrheinadwy ydynt! 34 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef? 35 Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? 36 Canys ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.