Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 94

94 O Arglwydd Dduw y dial, O Dduw y dial, ymddisgleiria. Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion. Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu? Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd? Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant. Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant. Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd; ac nid ystyria Duw Jacob hyn. Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch? Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad? 10 Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn? 11 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt. 12 Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith: 13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol. 14 Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth. 15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl. 16 Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd? 17 Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd. 18 Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O Arglwydd, a’m cynhaliodd. 19 Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid. 20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith? 21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog. 22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a’m Duw yw craig fy nodded. 23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a’u tyr hwynt ymaith.

Jeremeia 5:18-31

18 Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.

19 A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr Arglwydd ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi. 20 Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddywedyd, 21 Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant: 22 Onid ofnwch chwi fi? medd yr Arglwydd: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw? 23 Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt‐hwy a giliasant, ac a aethant ymaith. 24 Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.

25 Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych. 26 Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant. 27 Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant. 28 Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus. 29 Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr Arglwydd; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?

30 Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir: 31 Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a’m pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?

2 Pedr 3:8-13

Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd. Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch. 10 Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant, a’r ddaear a’r gwaith a fyddo ynddi a losgir. 11 A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, 12 Yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant? 13 Eithr nefoedd newydd, a daear newydd, yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.