Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
14 Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni. 2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw. 3 Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 4 Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd. 5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn. 6 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo. 7 Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.
20 Codwch i fyny eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o’r gogledd: pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell brydferth? 21 Beth a ddywedi pan ymwelo â thi? canys ti a’u dysgaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat: oni oddiwedd gofidiau di megis gwraig yn esgor?
22 Ac o dywedi yn dy galon, Paham y digwydd hyn i mi? oherwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odre, ac y dinoethwyd dy sodlau. 23 A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg. 24 Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch. 25 Dyma dy gyfran di, y rhan a fesurais i ti, medd yr Arglwydd; am i ti fy anghofio i, ac ymddiried mewn celwydd. 26 Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb, fel yr amlyger dy warth. 27 Gwelais dy odineb a’th weryriad, brynti dy buteindra a’th ffieidd‐dra ar y bryniau yn y meysydd. Gwae di, Jerwsalem! a ymlanhei di? pa bryd bellach?
1 Paul, apostol Iesu Grist, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a’r Arglwydd Iesu Grist, ein gobaith: 2 At Timotheus, fy mab naturiol yn y ffydd: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a Crist Iesu ein Harglwydd. 3 Megis y deisyfais arnat aros yn Effesus, pan euthum i Facedonia, fel y gellit rybuddio rhai na ddysgont ddim amgen, 4 Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorffen, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd; gwna felly. 5 Eithr diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith: 6 Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai, ac y troesant heibio at ofer siarad; 7 Gan ewyllysio bod yn athrawon o’r ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru. 8 Eithr nyni a wyddom mai da yw’r gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlon; 9 Gan wybod hyn, nad i’r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i’r rhai digyfraith ac anufudd, i’r rhai annuwiol a phechaduriaid, i’r rhai disanctaidd a halogedig, i dad‐leiddiaid a mam‐leiddiaid, i leiddiaid dynion, 10 I buteinwyr, i wryw‐gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus; 11 Yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i mi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.