Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
32 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor. 2 Canys y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem: a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, yr hwn oedd yn nhŷ brenin Jwda. 3 Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef, gan ddywedyd, Paham y proffwydi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi;
6 A Jeremeia a lefarodd, Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, 7 Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat, gan ddywedyd, Prŷn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth: oblegid i ti y mae cyfiawnder y pryniad i’w brynu ef. 8 Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy, yn ôl gair yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrthyf, Prŷn, atolwg, fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Benjamin: canys i ti y mae cyfiawnder yr etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng; prŷn ef i ti. Yna y gwybûm mai gair yr Arglwydd oedd hwn. 9 A mi a brynais y maes oedd yn Anathoth gan Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad, ac a bwysais iddo yr arian, saith sicl a deg darn o arian. 10 A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr, ac a’i seliais; cymerais hefyd dystion, a phwysais yr arian mewn cloriannau. 11 Yna mi a gymerais lyfr y pryniad, sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a defod, a’r hwn oedd yn agored. 12 A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, mab Maaseia, yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr, ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth, yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy.
13 A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt, gan ddywedyd, 14 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Cymer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o’r pryniad yr hwn sydd seliedig, a’r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer. 15 Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Tai, a meysydd, a gwinllannoedd, a feddiennir eto yn y wlad hon.
91 Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog. 2 Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf. 3 Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon. 4 A’i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti. 5 Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd: 6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd.
14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw. 15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef. 16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.
6 Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd. 7 Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith. 8 Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny. 9 Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth. 10 Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a’u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau. 11 Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. 12 Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i’r hwn hefyd y’th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion. 13 Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda; 14 Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist: 15 Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi; 16 Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen. 17 Gorchymyn i’r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel feddwl, ac na obeithiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i’w mwynhau: 18 Ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu; 19 Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol.
19 Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac a wisgid â phorffor a lliain main, ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd: 20 Yr oedd hefyd ryw gardotyn, a’i enw Lasarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd, 21 Ac yn chwenychu cael ei borthi â’r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog; ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. 22 A bu, i’r cardotyn farw, a’i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A’r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd: 23 Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lasarus yn ei fynwes. 24 Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a’m poenir yn y fflam hon. 25 Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau. 26 Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr: fel na allo’r rhai a fynnent, dramwy oddi yma atoch chwi; na’r rhai oddi yna, dramwy atom ni. 27 Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad; 28 Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn. 29 Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a’r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy. 30 Yntau a ddywedodd, Nage, y tad Abraham: eithr os â un oddi wrth y meirw atynt, hwy a edifarhânt. 31 Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a’r proffwydi, ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.