Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd.
58 Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a fernwch chwi uniondeb, O feibion dynion? 2 Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear. 3 O’r groth yr ymddieithriodd y rhai annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd. 4 Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau; 5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr. 6 Dryllia, O Dduw, eu dannedd yn eu geneuau: tor, O Arglwydd, gilddannedd y llewod ieuainc. 7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri. 8 Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul. 9 Cyn i’ch crochanau glywed y mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint. 10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol. 11 Fel y dywedo dyn, Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaear.
3 Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr Arglwydd. 2 Dyrchafa dy lygaid i’r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir â’th buteindra, ac â’th ddrygioni. 3 Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio. 4 Oni lefi di arnaf fi o hyn allan, Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctid? 5 A ddeil efe ei ddig byth? a’i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.
6 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno. 7 A mi a ddywedais, wedi iddi wneuthur hyn i gyd, Dychwel ataf fi. Ond ni ddychwelodd. A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny. 8 A gwelais yn dda, am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig, ollwng ohonof hi ymaith, ac a roddais iddi ei llythyr ysgar: er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd. 9 A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda’r maen a’r pren y puteiniodd hi. 10 Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â’i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr Arglwydd. 11 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Israel wrthnysig a’i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.
12 Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr Arglwydd, ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr Arglwydd, ni ddaliaf lid yn dragywydd. 13 Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr Arglwydd dy Dduw, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr Arglwydd. 14 Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr Arglwydd; canys myfi a’ch priodais chwi: a mi a’ch cymeraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a’ch dygaf chwi i Seion:
1 Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb; 2 I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd; 3 Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr; 4 At Titus, fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni. 5 Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti: 6 Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd: 7 Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; 8 Eithr yn lletygar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus; 9 Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.