Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. 2 Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. 3 Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. 4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. 5 Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. 6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.
14 Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft: 15 Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau.
16 Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr Arglwydd, a hwy a’u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a’u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau. 17 Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o’m gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid. 18 Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a’u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir â’u ffiaidd gelanedd; ie, â’u ffieidd‐dra y llanwasant fy etifeddiaeth. 19 O Arglwydd, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt. 20 A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau? 21 Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a’m grym: a chânt wybod mai yr Arglwydd yw fy enw.
17 Pechod Jwda a ysgrifennwyd â phin o haearn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon, ac ar gyrn eich allorau; 2 Gan fod eu meibion yn cofio eu hallorau a’u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel. 3 O fy mynydd yn y maes, dy olud a’th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith, a’th uchelfeydd i bechod, trwy dy holl derfynau. 4 Ti a adewir hefyd dy hunan, heb dy etifeddiaeth a roddais i ti; a mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn tir nid adwaenost: canys cyneuasoch dân yn fy nig, yr hwn a lysg byth.
7 Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a’r gweinidog ffyddlon, a’r cyd‐was yn yr Arglwydd: 8 Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi; 9 Gydag Onesimus, y ffyddlon a’r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma. 10 Y mae Aristarchus, fy nghyd‐garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;) 11 A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o’r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi. 12 Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw. 13 Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a’r rhai o Laodicea, a’r rhai o Hierapolis. 14 Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch. 15 Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a’r eglwys sydd yn ei dŷ ef. 16 Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea. 17 A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.