Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Asaff.
79 Y cenhedloedd, O Dduw, a ddaethant i’th etifeddiaeth; halogasant dy deml sanctaidd: gosodasant Jerwsalem yn garneddau. 2 Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear. 3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a’u claddai. 4 Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch. 5 Pa hyd, Arglwydd? a ddigi di yn dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân? 6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw. 7 Canys ysasant Jacob, ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd. 8 Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd. 9 Cynorthwya ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ein pechodau, er mwyn dy enw.
14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd yn erbyn fy holl gymdogion drwg, y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu, Wele, mi a’u tynnaf hwy allan o’u tir, ac a dynnaf dŷ Jwda o’u mysg hwynt. 15 Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt; a dygaf hwynt drachefn bob un i’w etifeddiaeth, a phob un i’w dir. 16 Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i’m henw, Byw yw yr Arglwydd, (megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl. 17 Eithr oni wrandawant, yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon, a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi, medd yr Arglwydd.
13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf, Dos a chais i ti wregys lliain, a dod ef am dy lwynau, ac na ddod ef mewn dwfr. 2 Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr Arglwydd, ac a’i dodais am fy llwynau. 3 A daeth gair yr Arglwydd ataf eilwaith, gan ddywedyd, 4 Cymer y gwregys a gefaist, ac sydd am dy lwynau, a chyfod, dos i Ewffrates, a chuddia ef mewn twll o’r graig. 5 Felly mi a euthum, ac a’i cuddiais ef yn Ewffrates, megis y gorchmynasai yr Arglwydd i mi. 6 Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys a orchmynnais i ti ei guddio yno. 7 Yna yr euthum i Ewffrates, ac a gloddiais, ac a gymerais y gwregys o’r man lle y cuddiaswn ef: ac wele, pydrasai y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim. 8 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Felly y gwnaf i falchder Jwda, a mawr falchder Jerwsalem bydru. 10 Y bobl ddrygionus hyn, y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys yma, yr hwn nid yw dda i ddim. 11 Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda lynu wrthyf, medd yr Arglwydd, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant: ond ni wrandawent.
3 Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaediad? 2 Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw. 3 Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? 4 Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th farner. 5 Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;) 6 Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd? 7 Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef, paham y’m bernir innau eto megis pechadur? 8 Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.