Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
19 Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. 20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. 21 Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.
22 Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. 23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. 24 Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. 25 Daionus yw yr Arglwydd i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. 26 Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd.
7 Y mae Jerwsalem, yn nyddiau ei blinder a’i chaledi, yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt, pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn, heb neb yn ei chynorthwyo hi: y gelynion a’i gwelsant hi, ac a chwarddasant am ben ei sabothau. 8 Jerwsalem a bechodd bechod; am hynny y symudwyd hi: yr holl rai a’i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi, oherwydd iddynt weled ei noethni hi: ie, y mae hi yn ucheneidio, ac yn troi yn ei hôl. 9 Ei haflendid sydd yn ei godre, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb neb yn ei chysuro. Edrych, Arglwydd, ar fy mlinder; canys ymfawrygodd y gelyn. 10 Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi: hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i’w chysegr, i’r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i’th gynulleidfa. 11 Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio, yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu hoffbethau am fwyd i ddadebru yr enaid: edrych, Arglwydd, a gwêl; canys dirmygus ydwyf fi.
12 Onid gwaeth gennych chwi, y fforddolion oll? gwelwch ac edrychwch, a oes y fath ofid â’m gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi, â’r hwn y gofidiodd yr Arglwydd fi yn nydd angerdd ei ddicter. 13 O’r uchelder yr anfonodd efe dân i’m hesgyrn i, yr hwn a aeth yn drech na hwynt: efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed, ac a’m dychwelodd yn fy ôl; efe a’m gwnaeth yn anrheithiedig, ac yn ofidus ar hyd y dydd. 14 Rhwymwyd iau fy nghamweddau â’i law ef: hwy a blethwyd, ac a ddaethant i fyny am fy ngwddf: efe a wnaeth i’m nerth syrthio; yr Arglwydd a’m rhoddodd mewn dwylo, oddi tan y rhai ni allaf gyfodi. 15 Yr Arglwydd a fathrodd fy holl rai grymus o’m mewn; efe a gyhoeddodd i’m herbyn gymanfa, i ddifetha fy ngwŷr ieuainc: fel gwinwryf y sathrodd yr Arglwydd y forwyn, merch Jwda.
29 Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a’i canlynodd ef. 30 Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. 31 A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. 32 A’r Iesu a safodd, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi? 33 Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni. 34 A’r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â’u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a’i canlynasant ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.