Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
137 Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. 2 Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau. 3 Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion. 4 Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr? 5 Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu. 6 Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di; oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf. 7 Cofia, Arglwydd, blant Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen. 8 O ferch Babilon, a anrheithir: gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau. 9 Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.
16 Am hyn yr ydwyf yn wylo; y mae fy llygad, fy llygad, yn rhedeg gan ddwfr, oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid: fy meibion sydd anrheithiedig, am i’r gelyn orchfygu. 17 Seion a ledodd ei dwylo, heb neb yn ei diddanu: yr Arglwydd a orchmynnodd am Jacob, fod ei elynion yn ei gylch: Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt.
18 Cyfiawn yw yr Arglwydd; oblegid myfi a fûm anufudd i’w air ef: gwrandewch, atolwg, bobloedd oll, a gwelwch fy ngofid: fy morynion a’m gwŷr ieuainc a aethant i gaethiwed. 19 Gelwais am fy nghariadau, a hwy a’m twyllasant; fy offeiriaid a’m hynafgwyr a drengasant yn y ddinas, tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid. 20 Gwêl, O Arglwydd; canys y mae yn gyfyng arnaf: fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy nghalon a drodd ynof; oherwydd fy mod yn rhy anufudd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, megis marwolaeth sydd gartref. 21 Clywsant fy mod i yn ucheneidio: nid oes a’m diddano: fy holl elynion, pan glywsant fy nrygfyd, a lawenychasant am i ti wneuthur hynny: ond ti a ddygi i ben y dydd a gyhoeddaist, a hwy a fyddant fel finnau. 22 Deued eu holl ddrygioni hwynt o’th flaen di; a gwna iddynt hwy fel y gwnaethost i minnau, am fy holl gamweddau: oblegid y mae fy ucheneidiau yn aml, a’m calon yn ofidus.
2 Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau; 3 Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd. 4 Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim. 5 O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef. 6 Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. 7 Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. 8 Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd. 9 Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth: 10 A’r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe. 11 Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.