Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi’r cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr Arglwydd
102 Arglwydd, clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat. 2 Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf, brysia, gwrando fi. 3 Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a’m hesgyrn a boethasant fel aelwyd. 4 Fy nghalon a drawyd, ac a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fwyta fy mara. 5 Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd. 6 Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch. 7 Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ. 8 Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn. 9 Canys bwyteais ludw fel bara, a chymysgais fy niod ag wylofain; 10 Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr. 11 Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais. 12 Tithau, Arglwydd, a barhei yn dragwyddol, a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. 13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth. 14 Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi. 15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr Arglwydd, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant. 16 Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant. 17 Efe a edrych ar weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wrthyf fi; Cymer ffiol win y digofaint yma o’m llaw, a dod hi i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt. 16 A hwy a yfant, ac a frawychant, ac a wallgofant, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith. 17 Yna mi a gymerais y ffiol o law yr Arglwydd, ac a’i rhoddais i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr Arglwydd fi atynt: 18 I Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ac i’w brenhinoedd, ac i’w thywysogion: i’w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch, yn syndod, yn chwibaniad, ac yn felltith, fel y mae heddiw; 19 I Pharo brenin yr Aifft, ac i’w weision, ac i’w dywysogion, ac i’w holl bobl; 20 Ac i’r holl bobl gymysg, ac i holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac i Ascalon, ac Assa, ac Ecron, a gweddill Asdod; 21 I Edom, a Moab, a meibion Ammon; 22 I holl frenhinoedd Tyrus hefyd, ac i holl frenhinoedd Sidon, ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai sydd dros y môr; 23 I Dedan, a Thema, a Bus; ac i bawb o’r cyrrau eithaf; 24 Ac i holl frenhinoedd Arabia, ac i holl frenhinoedd y bobl gymysg, y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch; 25 Ac i holl frenhinoedd Simri, ac i holl frenhinoedd Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid; 26 Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob un gyda’i gilydd; ac i holl deyrnasoedd y byd, y rhai sydd ar wyneb y ddaear: a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt. 27 A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i’ch plith. 28 Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o’th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Diau yr yfwch: 29 Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd? Na ddihengwch; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd Arglwydd y lluoedd. 30 Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr Arglwydd oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle; bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear. 31 Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’r cenhedloedd: efe a ymddadlau â phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i’r cleddyf, medd yr Arglwydd. 32 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl, a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear.
5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn: 6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel. 7 Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesáu. 8 Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahanglwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad. 9 Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i’ch pyrsau; 10 Nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon: canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd. 11 Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith. 12 A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo. 13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. 14 A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw, neu o’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. 15 Yn wir meddaf i chwi, Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a’r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.