Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 102:1-17

Gweddi’r cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr Arglwydd

102 Arglwydd, clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat. Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf, brysia, gwrando fi. Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a’m hesgyrn a boethasant fel aelwyd. Fy nghalon a drawyd, ac a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fwyta fy mara. Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd. Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch. Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ. Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn. Canys bwyteais ludw fel bara, a chymysgais fy niod ag wylofain; 10 Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr. 11 Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais. 12 Tithau, Arglwydd, a barhei yn dragwyddol, a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. 13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth. 14 Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi. 15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr Arglwydd, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant. 16 Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant. 17 Efe a edrych ar weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.

Jeremeia 29:24-32

24 Ac wrth Semaia y Nehelamiad y lleferi, gan ddywedyd, 25 Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Am i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid, gan ddywedyd, 26 Yr Arglwydd a’th osododd di yn offeiriad yn lle Jehoiada yr offeiriad, i fod yn olygwr yn nhŷ yr Arglwydd, ar bob gŵr gorffwyllog, ac yn cymryd arno broffwydo, i’w roddi ef mewn carchar, a chyffion: 27 Ac yn awr paham na cheryddaist ti Jeremeia o Anathoth, yr hwn sydd yn proffwydo i chwi? 28 Canys am hynny yr anfonodd atom ni i Babilon, gan ddywedyd, Hir fydd y caethiwed hwn: adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. 29 A Seffaneia yr offeiriad a ddarllenodd y llythyr hwn lle y clywodd Jeremeia y proffwyd.

30 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd, 31 Anfon at yr holl gaethglud, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd am Semaia y Nehelamiad; Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon ef, a pheri ohono i chwi ymddiried mewn celwydd: 32 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele mi a ymwelaf â Semaia y Nehelamiad, ac â’i had ef: ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i’m pobl, medd yr Arglwydd; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd.

Effesiaid 6:10-20

10 Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef. 11 Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. 12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. 13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll. 14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; 15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: 16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. 17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw: 18 Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint; 19 A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl; 20 Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.