Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm neu Gân meibion Cora.
87 Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd. 2 Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob. 3 Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas Duw. Sela. 4 Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn. 5 Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi. 6 Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela. 7 Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.
3 Canys wele, yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem, 2 Casglaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl, a’m hetifeddiaeth Israel, y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd, a rhanasant fy nhir. 3 Ac ar fy mhobl y bwriasant goelbrennau, a rhoddasant y bachgen er putain, a gwerthasant fachgennes er gwin, fel yr yfent. 4 Tyrus hefyd a Sidon, a holl ardaloedd Palesteina, beth sydd i chwi a wneloch â mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain; 5 Am i chwi gymryd fy arian a’m haur, a dwyn i’ch temlau fy nhlysau dymunol. 6 Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i’r Groegiaid, i’w pellhau oddi wrth eu hardaloedd. 7 Wele, mi a’u codaf hwynt o’r lle y gwerthasoch hwynt iddo, ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain. 8 A minnau a werthaf eich meibion a’ch merched i law meibion Jwda, a hwythau a’u gwerthant i’r Sabeaid, i genedl o bell; canys yr Arglwydd a lefarodd hyn.
12 Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi: 13 Eithr llawenhewch, yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu. 14 Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir. 15 Eithr na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill: 16 Eithr os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran. 17 Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw: ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw? 18 Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur? 19 Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchmynnant eu heneidiau iddo ef, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.