Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Galarnad 1:1-6

Pa fodd y mae y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan! pa fodd y mae y luosog ymhlith y cenhedloedd megis yn weddw! pa fodd y mae tywysoges y taleithiau dan deyrnged! Y mae hi yn wylo yn hidl liw nos, ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau, heb neb o’i holl gariadau yn ei chysuro: ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, ac a aethant yn elynion iddi. Jwda a fudodd ymaith gan flinder, a chan faint caethiwed; y mae hi yn aros ymysg y cenhedloedd, heb gael gorffwystra: ei holl erlidwyr a’i goddiweddasant hi mewn lleoedd cyfyng. Y mae ffyrdd Seion yn galaru, o eisiau rhai yn dyfod i’r ŵyl arbennig: ei holl byrth hi sydd anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn ucheneidio, ei morynion yn ofidus, a hithau yn flin arni. Ei gwrthwynebwyr ydynt bennaf, y mae ei gelynion yn ffynnu: canys yr Arglwydd a’i gofidiodd hi am amlder ei chamweddau: ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn. A holl harddwch merch Seion a ymadawodd â hi; y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlidiwr.

Galarnad 3:19-26

19 Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. 20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. 21 Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.

22 Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. 23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. 24 Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. 25 Daionus yw yr Arglwydd i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. 26 Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd.

Salmau 137

137 Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau. Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion. Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr? Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu. Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di; oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf. Cofia, Arglwydd, blant Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen. O ferch Babilon, a anrheithir: gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau. Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.

2 Timotheus 1:1-14

Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ôl addewid y bywyd, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu, At Timotheus, fy mab annwyl: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a Crist Iesu ein Harglwydd. Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd; Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y’m llanwer o lawenydd; Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd. Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu i ailennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i. Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll. Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac ohonof finnau ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd â’r efengyl, yn ôl nerth Duw; Yr hwn a’n hachubodd ni, ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a’i ras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu, cyn dechrau’r byd, 10 Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy’r efengyl: 11 I’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, ac yn athro’r Cenhedloedd. 12 Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw’r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw. 13 Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. 14 Y peth da a rodded i’w gadw atat, cadw trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.

Luc 17:5-10

A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd ni. A’r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard, chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhâi i chwi. Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig, neu’n bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes, Dos ac eistedd i lawr i fwyta? Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau? Oes ganddo ddiolch i’r gwas hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo? Nid wyf yn tybied. 10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.