Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:97-104

97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

NUN

Jeremeia 26:16-24

16 Yna y tywysogion, a’r holl bobl, a ddywedasant wrth yr offeiriaid a’r proffwydi, Ni haeddai y gŵr hwn farn marwolaeth: canys yn enw yr Arglwydd ein Duw y llefarodd efe wrthym. 17 Yna rhai o henuriaid y wlad a godasant, ac a lefarasant wrth holl gynulleidfa y bobl, gan ddywedyd, 18 Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Seion a erddir fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed. 19 A roddodd Heseceia brenin Jwda, a holl Jwda, ef i farwolaeth? oni ofnodd efe yr Arglwydd, ac oni weddïodd efe gerbron yr Arglwydd, fel yr edifarhaodd yr Arglwydd am y drwg a draethasai efe yn eu herbyn? Fel hyn y gwnaem ddrwg mawr yn erbyn ein heneidiau. 20 Ac yr oedd hefyd ŵr yn proffwydo yn enw yr Arglwydd, Ureia mab Semaia, o Ciriath‐jearim, yr hwn a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, ac yn erbyn y wlad hon, yn ôl holl eiriau Jeremeia. 21 A phan glywodd y brenin Jehoiacim, a’i holl gedyrn, a’r holl dywysogion, ei eiriau ef, y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Ureia, efe a ofnodd, ac a ffodd, ac a aeth i’r Aifft. 22 A’r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i’r Aifft, sef Elnathan mab Achbor, a gwŷr gydag ef i’r Aifft: 23 A hwy a gyrchasant Ureia allan o’r Aifft, ac a’i dygasant ef at y brenin Jehoiacim, yr hwn a’i lladdodd ef â’r cleddyf, ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin. 24 Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia, fel na roddwyd ef i law y bobl i’w ladd.

2 Timotheus 2:14-26

14 Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. 15 Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd. 16 Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb. 17 A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus; 18 Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. 19 Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo’r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder. 20 Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch. 21 Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i’r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. 22 Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur. 23 Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau. 24 Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar, 25 Mewn addfwynder yn dysgu’r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd; 26 A bod iddynt ddyfod i’r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.