Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 65

I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.

65 Mawl a’th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned. Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd. Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei. Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd. Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr. Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid. Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd. A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu. Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi. 10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi. 11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster. 12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. 13 Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.

Joel 1

Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel. Gwrandewch hyn, chwi henuriaid; a rhoddwch glust, holl drigolion y wlad: a fu hyn yn eich dyddiau, neu yn nyddiau eich tadau? Mynegwch hyn i’ch plant, a’ch plant i’w plant hwythau, a’u plant hwythau i genhedlaeth arall. Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust. Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min. Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir; dannedd llew yw ei dannedd, a childdannedd hen lew sydd iddi. Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a’m ffigysbren a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.

Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid. Torrwyd oddi wrth dŷ yr Arglwydd yr offrwm bwyd, a’r offrwm diod: y mae yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, yn galaru. 10 Difrodwyd y maes, y ddaear a alara; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd: sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew. 11 Cywilyddiwch, y llafurwyr; udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes. 12 Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a’r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion. 13 Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid; udwch, weinidogion yr allor; deuwch, weinidogion fy Nuw, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain: canys atelir oddi wrth dŷ eich Duw yr offrwm bwyd, a’r offrwm diod.

14 Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa, cesglwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ yr Arglwydd eich Duw, a gwaeddwch ar yr Arglwydd; 15 Och o’r diwrnod! canys dydd yr Arglwydd sydd yn agos, ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw. 16 Oni thorrwyd yng ngŵydd ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein Duw, y bwyd, y llawenydd, a’r digrifwch? 17 Pydrodd yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlannau a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd. 18 O o’r griddfan y mae yr anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg, am nad oes borfa iddynt; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd. 19 Arnat ti, Arglwydd, y llefaf; canys y tân a ddifaodd borfeydd yr anialwch, y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes. 20 Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat; canys sychodd y ffrydiau dwfr, a’r tân a ysodd borfeydd yr anialwch.

2 Timotheus 3:1-9

Gwybydd hyn hefyd, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diwethaf. Canys bydd dynion â’u serch arnynt eu hunain, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn annuwiol, Yn angharedig, yn torri cyfamod, yn enllibaidd, yn anghymesur, yn anfwyn, yn ddiserch i’r rhai da, Yn fradwyr, yn waedwyllt, yn chwyddedig, yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw; A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi: a’r rhai hyn gochel di. Canys o’r rhai hyn y mae’r rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau, Yn dysgu bob amser, ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd. Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae’r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig, yn anghymeradwy o ran y ffydd. Eithr nid ânt rhagddynt ymhellach: canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu yr eiddynt hwythau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.