Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
137 Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. 2 Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau. 3 Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion. 4 Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr? 5 Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu. 6 Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di; oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf. 7 Cofia, Arglwydd, blant Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen. 8 O ferch Babilon, a anrheithir: gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau. 9 Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.
13 Pa beth a gymeraf yn dyst i ti? beth a gyffelybaf i ti, O ferch Jerwsalem? beth a gystadlaf â thi, fel y’th ddiddanwyf, O forwyn, merch Seion? canys y mae dy ddinistr yn fawr fel y môr; pwy a’th iachâ di? 14 Dy broffwydi a welsant i ti gelwydd a diflasrwydd; ac ni ddatguddiasant dy anwiredd, i droi ymaith dy gaethiwed: eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog, ac achosion deol. 15 Y rhai oll a dramwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti; chwibanent, ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem, gan ddywedyd, Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch, yn llawenydd yr holl ddaear? 16 Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti; a chwibanasant, ac a ysgyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant, Llyncasom hi: yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni; ni a’i cawsom, ni a’i gwelsom. 17 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn a ddychmygodd; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt: efe a ddifrododd, ac nid arbedodd; efe a wnaeth i’r gelyn lawenychu yn dy erbyn di; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di. 18 Eu calon hwynt a waeddodd ar yr Arglwydd, O fur merch Seion, tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon; na orffwys, ac na pheidied cannwyll dy lygad. 19 Cyfod, cyhoedda liw nos; yn nechrau yr wyliadwriaeth tywallt dy galon fel dwfr gerbron yr Arglwydd: dyrchafa dy ddwylo ato ef am einioes dy blant, y rhai sydd yn llewygu o newyn ym mhen pob heol.
20 Edrych, Arglwydd, a gwêl i bwy y gwnaethost fel hyn: a fwyty y gwragedd eu ffrwyth eu hun, plant o rychwant o hyd? a leddir yr offeiriad a’r proffwyd yng nghysegr yr Arglwydd? 21 Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd: fy morynion a’m gwŷr ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf: ti a’u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant, lleddaist hwy heb arbed. 22 Gelwaist, megis ar ddydd uchel ŵyl, fy nychryn o amgylch, fel na ddihangodd ac na adawyd neb yn nydd soriant yr Arglwydd: y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais ac a fegais i.
5 Pob un a’r sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono. 2 Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef. 3 Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a’i orchmynion ef nid ydynt drymion. 4 Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu’r byd: a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r byd, sef ein ffydd ni. 5 Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?
13 Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw. 14 A hyn yw’r hyfder sydd gennym tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef. 15 Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo. 16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono. 17 Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth. 18 Ni a wyddom nad yw’r neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae’r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a’r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef. 19 Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni. 20 Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol. 21 Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.