Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
137 Cyfiawn ydwyt ti, O Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau. 138 Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn. 139 Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di. 140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi. 141 Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion. 142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd. 143 Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch. 144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.COFF
5 Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi. 6 Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt. 7 Y maent i’w hofni ac i’w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u rhagoriaeth. 8 A’u meirch sydd fuanach na’r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a’u marchogion a ddeuant o bell; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd. 9 Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod. 10 A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a’i goresgynnant. 11 Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i’w dduw ei hun.
12 Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O Arglwydd fy Nuw, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O Arglwydd, ti a’u gosodaist hwy i farn, ac a’u sicrheaist, O Dduw, i gosbedigaeth. 13 Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun? 14 Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt? 15 Cyfodant hwynt oll â’r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant. 16 Am hynny yr aberthant i’w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i’w ballegrwyd: canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a’u bwyd yn fras. 17 A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol?
1 Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a’n Hachubwr Iesu Grist: 2 Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni, 3 Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd: 4 Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant. 5 A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth; 6 Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb; 7 Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad. 8 Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. 9 Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt. 10 Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth: 11 Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.