Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 76

I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff.

76 Hynod yw Duw yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel. Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion. Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela. Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail. Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo. Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu. Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter? O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear, Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela. 10 Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi. 11 Addunedwch, a thelwch i’r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy. 12 Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.

Eseia 66:14-24

14 A phan weloch hyn, y llawenycha eich calon; eich esgyrn hefyd a flodeuant fel llysieuyn: ac fe adwaenir llaw yr Arglwydd tuag at ei weision, a’i lidiowgrwydd wrth ei elynion. 15 Canys, wele, yr Arglwydd a ddaw â thân, ac â’i gerbydau fel trowynt, i dalu ei ddicter â llidiowgrwydd, a’i gerydd â fflamau tân. 16 Canys yr Arglwydd a ymddadlau â thân ac â’i gleddyf yn erbyn pob cnawd; a lladdedigion yr Arglwydd fyddant aml. 17 Y rhai a ymsancteiddiant, ac a ymlanhânt yn y gerddi, yn ôl ei gilydd, yn y canol, gan fwyta cig moch, a ffieidd‐dra, a llygod, a gyd‐ddiweddir, medd yr Arglwydd. 18 Canys mi a adwaen eu gweithredoedd hwynt a’u meddyliau: y mae yr amser yn dyfod, i gasglu yr holl genhedloedd a’r ieithoedd; a hwy a ddeuant, ac a welant fy ngogoniant. 19 A gosodaf yn eu mysg arwydd, ac anfonaf y rhai dihangol ohonynt at y cenhedloedd, i Tarsis, Affrica, a Lydia, y rhai a dynnant mewn bwa, i Italia, a Groeg, i’r ynysoedd pell, y rhai ni chlywsant sôn amdanaf, ac ni welsant fy ngogoniant; a mynegant fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd. 20 A hwy a ddygant eich holl frodyr o blith yr holl genhedloedd, yn offrwm i’r Arglwydd, ar feirch, ac ar gerbydau, ac ar elorau meirch, ac ar fulod, ac ar anifeiliaid buain, i’m mynydd sanctaidd Jerwsalem, medd yr Arglwydd, megis y dwg meibion Israel offrwm mewn llestr glân i dŷ yr Arglwydd. 21 Ac ohonynt hwy y cymeraf rai yn offeiriaid ac yn Lefiaid, medd yr Arglwydd. 22 Canys megis y saif ger fy mron y nefoedd newydd a’r ddaear newydd, y rhai a wnaf fi, medd yr Arglwydd, felly y saif eich had chwi, a’ch enw chwi. 23 Bydd hefyd o newyddloer i newyddloer, ac o Saboth i Saboth, i bob cnawd ddyfod i addoli ger fy mron i, medd yr Arglwydd. 24 A hwy a ânt allan, ac a edrychant ar gelanedd y rhai a wnaethant gamwedd i’m herbyn: canys eu pryf ni bydd marw, a’u tân ni ddiffydd; a byddant yn ffieidd‐dra gan bob cnawd.

Mathew 23:37-24:14

37 Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 38 Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. 39 Canys meddaf i chwi, Ni’m gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.

24 A’r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddatodir.

Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw’r diwedd eto. Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau. A dechreuad gofidiau yw hyn oll. Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu, ac a’ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. 10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. 11 A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. 12 Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer. 13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 14 A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.