Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
2 Y Gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos, am Jwda a Jerwsalem. 2 A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau; a’r holl genhedloedd a ddylifant ato. 3 A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob; ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem. 4 Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. 5 Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr Arglwydd.
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
122 Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd. 2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem. 3 Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun. 4 Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr Arglwydd. 5 Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd. 6 Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant. 7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. 8 Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. 9 Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.
11 A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom. 12 Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau’r goleuni. 13 Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. 14 Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.
36 Ond am y dydd hwnnw a’r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig. 37 Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 38 Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, 39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a’u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 41 Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a’r llall a adewir.
42 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd. 43 A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 44 Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.