Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
12 Yna y dywedi yn y dydd hwnnw, Molaf di, O Arglwydd: er i ti sorri wrthyf, dychwelir dy lid, a thi a’m cysuri. 2 Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr Arglwydd Dduw yw fy nerth a’m cân; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth. 3 Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth. 4 A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Molwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef. 5 Cenwch i’r Arglwydd; canys godidowgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir. 6 Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di.
14 Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl. 15 Canys fel hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig. 16 Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i. 17 Am anwiredd ei gybydd‐dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon. 18 Ei ffyrdd a welais, a mi a’i hiachâf ef: tywysaf ef hefyd, ac adferaf gysur iddo, ac i’w alarwyr. 19 Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr Arglwydd: a mi a’i hiachâf ef. 20 Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid. 21 Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i’r rhai annuwiol.
18 Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. 19 Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd iddynt. 20 Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus: 21 Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd. 22 Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid; 23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid. 24 O ba herwydd Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain: 25 Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.