Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
23 Gwae y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa! medd yr Arglwydd. 2 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel yn erbyn y bugeiliaid sydd yn bugeilio fy mhobl; Chwi a wasgarasoch fy nefaid, ac a’u hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt: wele fi yn ymweled â chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd, medd yr Arglwydd. 3 A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wledydd lle y gyrrais hwynt, a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau; yna yr amlhânt ac y chwanegant. 4 Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid, y rhai a’u bugeilia hwynt; ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisiau, medd yr Arglwydd.
5 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, a Brenin a deyrnasa ac a lwydda, ac a wna farn a chyfiawnder ar y ddaear. 6 Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER.
68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; 69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; 70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: 71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; 72 I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: 73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, 74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn, 75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. 76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; 77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, 78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, 79 I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
11 Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; 12 Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: 13 Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: 14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau: 15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig pob creadur: 16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. 17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. 18 Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. 19 Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; 20 Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.
33 A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.
34 A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. 35 A’r bobl a safodd yn edrych. A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw. 36 A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, 37 A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun. 38 Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
39 Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. 40 Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth? 41 A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. 42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. 43 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.