Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; 69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; 70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: 71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; 72 I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: 73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, 74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn, 75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. 76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; 77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, 78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, 79 I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Dos di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn; 2 A dywed, Gwrando air yr Arglwydd, frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a’th weision, a’th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn: 3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr: na wnewch gam, ac na threisiwch y dieithr, yr amddifad, na’r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn. 4 Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a’i weision, a’i bobl. 5 Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy hun y tyngaf, medd yr Arglwydd, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd. 6 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am dŷ brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol. 7 Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheithwyr, pob un â’i arfau: a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd, ac a’u bwriant i’r tân. 8 A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon, ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r ddinas fawr hon? 9 Yna yr atebant, Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr Arglwydd eu Duw, ac addoli duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt.
10 Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymaith: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wêl wlad ei enedigaeth. 11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad, yr hwn a aeth allan o’r lle hwn; Ni ddychwel efe yno mwyach. 12 Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni wêl efe y wlad hon mwyach.
13 Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ trwy anghyfiawnder, a’i ystafellau trwy gam; gan beri i’w gymydog ei wasanaethu yn rhad, ac heb roddi iddo am ei waith: 14 Yr hwn a ddywed, Mi a adeiladaf i mi dŷ eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio â fermilion. 15 A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo? 16 Efe a farnodd gŵyn y tlawd a’r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr Arglwydd, 17 Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham.
3 Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, 4 I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi. 5 Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf. 6 Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau: 7 Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist: 8 Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus: 9 Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.