Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 117

117 Molwch yr Arglwydd, yr holl genhedloedd: clodforwch ef, yr holl bobloedd. Oherwydd ei drugaredd ef tuag atom ni sydd fawr: a gwirionedd yr Arglwydd a bery yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

Jeremeia 30:18-24

18 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a’r ddinas a adeiledir ar ei charnedd, a’r llys a erys yn ôl ei arfer. 19 A moliant a â allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a’u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anaml; a mi a’u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael. 20 Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a’u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron; a mi a ymwelaf â’u holl orthrymwyr hwynt. 21 A’u pendefigion fydd ohonynt eu hun, a’u llywiawdwr a ddaw allan o’u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesáu, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesáu ataf fi? medd yr Arglwydd. 22 A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau. 23 Wele gorwynt yr Arglwydd yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys. 24 Ni ddychwel digofaint llidiog yr Arglwydd, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn.

Datguddiad 22:8-21

A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a’u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi’r pethau hyn. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Gwêl na wnelych: canys cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y proffwydi, ac i’r rhai sydd yn cadw geiriau’r llyfr hwn. Addola Dduw. 10 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: oblegid y mae’r amser yn agos. 11 Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a’r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a’r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a’r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto. 12 Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a’m gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef. 13 Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, y cyntaf a’r diwethaf. 14 Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy’r pyrth i’r ddinas. 15 Oddi allan y mae’r cŵn, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r puteinwyr, a’r llofruddion, a’r eilun-addolwyr, a phob un a’r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd. 16 Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn yn yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a’r Seren fore eglur. 17 Ac y mae’r Ysbryd a’r briodasferch yn dywedyd, Tyred. A’r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A’r hwn sydd â syched arno, deued. A’r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad. 18 Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn: 19 Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn. 20 Yr hwn sydd yn tystiolaethu’r pethau hyn, sydd yn dywedyd, Yn wir, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen. Yn wir, tyred, Arglwydd Iesu. 21 Gras ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.

DIWEDD

I’R UNIG DDUW Y BYDDO’R GOGONIANT

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.