Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
117 Molwch yr Arglwydd, yr holl genhedloedd: clodforwch ef, yr holl bobloedd. 2 Oherwydd ei drugaredd ef tuag atom ni sydd fawr: a gwirionedd yr Arglwydd a bery yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.
31 Yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y byddaf Dduw i holl deuluoedd Israel; a hwythau a fyddant bobl i mi. 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf, a gafodd ffafr yn yr anialwch, pan euthum i beri llonyddwch iddo ef, sef i Israel. 3 Er ys talm yr ymddangosodd yr Arglwydd i mi, gan ddywedyd, A chariad tragwyddol y’th gerais: am hynny tynnais di â thrugaredd. 4 Myfi a’th adeiladaf eto, a thi a adeiledir, O forwyn Israel: ymdrwsi eto â’th dympanau, ac a ei allan gyda’r chwaraeyddion dawns. 5 Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: y planwyr a blannant, ac a’u mwynhânt yn gyffredin. 6 Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Effraim, Codwch, ac awn i fyny i Seion at yr Arglwydd ein Duw.
1 Yn gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi‐amau yn ein plith, 2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair: 3 Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn atat, O ardderchocaf Theoffilus, 4 Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.