Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
122 Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd. 2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem. 3 Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun. 4 Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr Arglwydd. 5 Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd. 6 Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant. 7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. 8 Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. 9 Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.
6 Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt, 2 Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant. 3 A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe: a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant. 4 Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hynny iddynt: dyma’r cedyrn a fu wŷr enwog gynt.
5 A’r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser. 6 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon. 7 A’r Arglwydd a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
8 Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr Arglwydd.
9 Dyma genedlaethau Noa: Noa oedd ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyda Duw y rhodiodd Noa. 10 A Noa a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Jaffeth.
11 Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. 2 Oblegid trwyddi hi y cafodd yr henuriaid air da. 3 Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir. 4 Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto. 5 Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw. 6 Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef. 7 Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy’r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.