Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd o foliant.
145 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd. 2 Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd. 3 Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy. 4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid. 5 Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf.
17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd. 19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt. 20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe. 21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
1 Yn yr ail flwyddyn i’r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr Arglwydd. 3 Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, 4 Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a’r tŷ hwn yn anghyfannedd? 5 Fel hyn gan hynny yn awr y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. 6 Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a’r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.
7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. 8 Esgynnwch i’r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y’m gogoneddir, medd yr Arglwydd. 9 Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth? medd Arglwydd y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i’w dŷ ei hun. 10 Am hynny gwaharddwyd i’r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i’r ddaear roddi ei ffrwyth. 11 Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo.
12 Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr Arglwydd eu Duw, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu Harglwydd Dduw hwynt ef; a’r bobl a ofnasant gerbron yr Arglwydd. 13 Yna Haggai cennad yr Arglwydd a lefarodd trwy genadwri yr Arglwydd wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyda chwi, medd yr Arglwydd. 14 Felly y cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ysbryd holl weddill y bobl; a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt, 15 Y pedwerydd dydd ar hugain o’r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin.
20 A Digwyddodd ar un o’r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn pregethu’r efengyl, ddyfod arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gyda’r henuriaid, 2 A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw’r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon? 3 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi: 4 Bedydd Ioan, ai o’r nef yr ydoedd, ai o ddynion? 5 Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef? 6 Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a’n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd. 7 A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le. 8 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.