Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
1 Y baich a welodd y proffwyd Habacuc. 2 Pa hyd, Arglwydd, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi! 3 Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o’m blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson. 4 Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.
2 Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tŵr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y’m cerydder. 2 A’r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a’i darlleno. 3 Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o’r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda. 4 Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd.
137 Cyfiawn ydwyt ti, O Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau. 138 Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn. 139 Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di. 140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi. 141 Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion. 142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd. 143 Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch. 144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.COFF
1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist: 2 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3 Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu; 4 Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a’ch ffydd yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef:
11 Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, ar fod i’n Duw ni eich cyfrif chwi’n deilwng o’r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol: 12 Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.
19 A’r Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho. 2 Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus, ac efe oedd ben‐publican, a hwn oedd gyfoethog. 3 Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth. 4 Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno. 5 A phan ddaeth yr Iesu i’r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a’i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di. 6 Ac efe a ddisgynnodd ar frys, ac a’i derbyniodd ef yn llawen. 7 A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus. 8 A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd. 9 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddiw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham. 10 Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.