Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
137 Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. 2 Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau. 3 Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion. 4 Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr? 5 Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu. 6 Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di; oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf. 7 Cofia, Arglwydd, blant Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen. 8 O ferch Babilon, a anrheithir: gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau. 9 Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.
5 Cofia, O Arglwydd, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd. 2 Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a’n tai i ddieithriaid. 3 Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon. 4 Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth. 5 Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni. 6 Rhoesom ein llaw i’r Eifftiaid, i’r Asyriaid, i gael digon o fara. 7 Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt. 8 Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a’n gwaredo o’u llaw hwynt. 9 Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch. 10 Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost. 11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a’r morynion yn ninasoedd Jwda. 12 Crogasant dywysogion â’u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr. 13 Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a’r plant a syrthiasant dan y coed. 14 Yr hynafgwyr a beidiasant â’r porth; y gwŷr ieuainc â’u cerdd. 15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar. 16 Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom! 17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid. 18 Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo. 19 Ti, Arglwydd, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd. 20 Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau? 21 Dychwel ni, O Arglwydd, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt. 22 Eithr ti a’n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.
12 A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arno chwant bwyd. 13 Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys. 14 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant.
20 A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. 21 A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw: 23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo. 24 Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.