Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:97-104

97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

NUN

Jeremeia 26:1-15

26 Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Saf yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd, a llefara wrth holl ddinasoedd Jwda, y rhai a ddêl i addoli i dŷ yr Arglwydd, yr holl eiriau a orchmynnwyf i ti eu llefaru wrthynt; na atal air: I edrych a wrandawant, ac a ddychwelant bob un o’i ffordd ddrwg; fel yr edifarhawyf finnau am y drwg a amcenais ei wneuthur iddynt, am ddrygioni eu gweithredoedd. A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oni wrandewch arnaf i rodio yn fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eich bron, I wrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi, y rhai a anfonais atoch, gan godi yn fore, ac anfon, ond ni wrandawsoch chwi; Yna y gwnaf y tŷ hwn fel Seilo, a’r ddinas hon a wnaf yn felltith i holl genhedloedd y ddaear. Yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a’r holl bobl a glywsant Jeremeia yn llefaru y geiriau hyn yn nhŷ yr Arglwydd.

A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a’r proffwydi, a’r holl bobl a’i daliasant ef, gan ddywedyd, Ti a fyddi farw yn ddiau. Paham y proffwydaist yn enw yr Arglwydd, gan ddywedyd, Fel Seilo y bydd y tŷ hwn, a’r ddinas hon a wneir yn anghyfannedd heb breswyliwr? Felly ymgasglodd yr holl bobl yn erbyn Jeremeia yn nhŷ yr Arglwydd.

10 Pan glybu tywysogion Jwda y geiriau hyn, yna hwy a ddaethant i fyny o dŷ y brenin i dŷ yr Arglwydd, ac a eisteddasant ar ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd. 11 Yna yr offeiriaid a’r proffwydi a lefarasant wrth y tywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Barn marwolaeth sydd ddyledus i’r gŵr hwn: canys efe a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, megis y clywsoch â’ch clustiau.

12 Yna y llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a’m hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn, ac yn erbyn y ddinas hon, yr holl eiriau a glywsoch. 13 Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a’ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr Arglwydd eich Duw; ac fe a edifarha yr Arglwydd am y drwg a lefarodd efe i’ch erbyn. 14 Ac amdanaf fi, wele fi yn eich dwylo; gwnewch i mi fel y gweloch yn dda ac yn uniawn. 15 Ond gwybyddwch yn sicr, os chwi a’m lladd, eich bod yn dwyn gwaed gwirion arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon, ac ar ei thrigolion: canys mewn gwirionedd yr Arglwydd a’m hanfonodd atoch i lefaru, lle y clywech, yr holl eiriau hyn.

Actau 17:22-34

22 Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a’ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol: 23 Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I’R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. 24 Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: 25 Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. 26 Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; 27 Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a’i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom: 28 Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o’ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni. 29 Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn. 30 A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau: 31 Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.

32 A phan glywsant sôn am atgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a’th wrandawn drachefn am y peth hwn. 33 Ac felly Paul a aeth allan o’u plith hwynt. 34 Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant: ymhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a’i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.