Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Galarnad 3:19-26

19 Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. 20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. 21 Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.

22 Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. 23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. 24 Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. 25 Daionus yw yr Arglwydd i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. 26 Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd.

Jeremeia 52:12-30

12 Ac yn y pumed mis, ar y degfed dydd o’r mis, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon,) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr, yr hwn a safai gerbron brenin Babilon, i Jerwsalem; 13 Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr, a losgodd efe â thân. 14 A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr, a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch. 15 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o’r bobl wael, a’r gweddill o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a’r gweddill o’r bobl. 16 Ond Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd rai o dlodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr. 17 A’r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a’r ystolion, a’r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon. 18 A hwy a ddygasant ymaith y crochanau, a’r rhawiau, a’r saltringau, a’r cawgiau, a’r thuserau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt. 19 A’r ffiolau, a’r pedyll tân, a’r cawgiau, a’r crochanau, a’r canwyllbrennau, a’r thuserau, a’r cwpanau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith. 20 Y ddwy golofn, un môr, a deuddeg o ychen pres, y rhai oedd dan yr ystolion, y rhai a wnaethai y brenin Solomon, yn nhŷ yr Arglwydd: nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn. 21 Ac am y colofnau, deunaw cufydd oedd uchder un golofn, a llinyn o ddeuddeg cufydd oedd yn ei hamgylchu: a’i thewder yn bedair modfedd; ac yn gau yr oedd. 22 A chnap pres oedd arni, a phum cufydd oedd uchder un cnap; a rhwydwaith a phomgranadau ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac fel hyn yr oedd yr ail golofn a’i phomgranadau. 23 A’r pomgranadau oeddynt, onid pedwar, cant ar ystlys: yr holl bomgranadau ar y rhwydwaith o amgylch oedd gant.

24 A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drws. 25 Ac efe a gymerodd o’r ddinas ystafellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr; a seithwyr o weision pennaf y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas; a phen-ysgrifennydd y llu, yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad; a thri ugeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yng nghanol y ddinas. 26 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn, ac a aeth â hwynt i Ribla, at frenin Babilon. 27 A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Fel hyn y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun. 28 Dyma y bobl a gaethgludodd Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon. 29 Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion. 30 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchodonosor, Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd saith gant a phump a deugain o Iddewon: yr holl ddynion hyn oedd bedair mil a chwe chant.

Datguddiad 2:12-29

12 Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd ganddo’r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd; 13 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, ie, yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo. 14 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu. 15 Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid, yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu. 16 Edifarha; ac os amgen, yr wyf fi yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau. 17 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.

18 Ac at angel yr eglwys sydd yn Thyatira, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd â’i lygaid fel fflam dân, a’i draed yn debyg i bres coeth; 19 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th gariad, a’th wasanaeth, a’th ffydd, a’th amynedd di, a’th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na’r rhai cyntaf. 20 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i’r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod. 21 Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi. 22 Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a’r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt am eu gweithredoedd. 23 A’i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a’r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw’r hwn sydd yn chwilio’r arennau a’r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd. 24 Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a’r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch faich arall. 25 Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch hyd oni ddelwyf. 26 A’r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd: 27 Ac efe a’u bugeilia hwy â gwialen haearn; fel llestri pridd y dryllir hwynt: fel y derbyniais innau gan fy Nhad. 28 Ac mi a roddaf iddo’r seren fore. 29 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.