Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 29:1

29 Dyma eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud, ac at yr offeiriaid, ac at y proffwydi, ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodonosor o Jerwsalem i Babilon;

Jeremeia 29:4-7

Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wrth yr holl gaethglud, yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon; Adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. Cymerwch wragedd, ac enillwch feibion a merched; a chymerwch wragedd i’ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr, fel yr esgoront ar feibion a merched, ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihaoch. Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y’ch caethgludais iddi, a gweddïwch ar yr Arglwydd drosti hi; canys yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwithau.

Salmau 66:1-12

I’r Pencerdd, Can neu Salm.

66 Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear: Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus. Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti. Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela. Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion. Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo. Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela. O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef: Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro. 10 Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian. 11 Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau. 12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan i le diwall.

2 Timotheus 2:8-15

Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. 10 Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. 11 Gwir yw’r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: 12 Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau: 13 Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun. 14 Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. 15 Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd.

Luc 17:11-19

11 Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea. 12 A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell: 13 A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym. 14 A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a’u glanhawyd hwynt. 15 Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iacháu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel. 16 Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe. 17 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw? 18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn. 19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.