Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
27 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail. 28 Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu, medd yr Arglwydd. 29 Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod. 30 Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun: pob un a’r a fwytao rawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
31 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel, ac â thŷ Jwda: 32 Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr Arglwydd. 33 Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt, ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant yn bobl i mi. 34 Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr Arglwydd: oherwydd hwynt‐hwy oll o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a’m hadnabyddant, medd yr Arglwydd; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a’u pechod ni chofiaf mwyach.
97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.NUN
14 Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod gan bwy y dysgaist; 15 Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 16 Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: 17 Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.
4 Yr ydwyf fi gan hynny yn gorchymyn gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a farna’r byw a’r meirw yn ei ymddangosiad a’i deyrnas; 2 Pregetha’r gair; bydd daer mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, annog gyda phob hirymaros ac athrawiaeth. 3 Canys daw’r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino; 4 Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant. 5 Eithr gwylia di ym mhob peth, dioddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth.
18 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio; 2 Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn. 3 Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr. 4 Ac efe nis gwnâi dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn; 5 Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i. 6 A’r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn. 7 Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt? 8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.