Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
129 Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr: 2 Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant. 3 Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion. 4 Yr Arglwydd sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol. 5 Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion. 6 Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith: 7 A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes. 8 Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw yr Arglwydd.
50 Y gair a lefarodd yr Arglwydd yn erbyn Babilon, ac yn erbyn gwlad y Caldeaid, trwy Jeremeia y proffwyd. 2 Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch, a chodwch arwydd; cyhoeddwch, na chelwch: dywedwch, Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, drylliwyd Merodach: ei heilunod a gywilyddiwyd, a’i delwau a ddrylliwyd. 3 Canys o’r gogledd y daw cenedl yn ei herbyn hi, yr hon a wna ei gwlad hi yn anghyfannedd, fel na byddo preswylydd ynddi: yn ddyn ac yn anifail y mudant, ac y ciliant ymaith.
4 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, meibion Israel a ddeuant, hwy a meibion Jwda ynghyd, dan gerdded ac wylo yr ânt, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw. 5 Hwy a ofynnant y ffordd i Seion, tuag yno y bydd eu hwynebau hwynt: Deuwch, meddant, a glynwn wrth yr Arglwydd, trwy gyfamod tragwyddol yr hwn nid anghofir. 6 Fy mhobl a fu fel praidd colledig; eu bugeiliaid a’u gyrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gorweddfa. 7 Pawb a’r a’u cawsant a’u difasant, a’u gelynion a ddywedasant, Ni wnaethom ni ar fai; canys hwy a bechasant yn erbyn yr Arglwydd, trigle cyfiawnder; sef yr Arglwydd, gobaith eu tadau.
17 Fel dafad ar wasgar yw Israel; llewod a’i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a’i hysodd, a’r Nebuchodonosor yma brenin Babilon yn olaf a’i diesgyrnodd. 18 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â’i wlad, fel yr ymwelais â brenin Asyria. 19 A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef. 20 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf.
39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef. 40 A phan ddaeth efe i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth. 41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, 42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. 43 Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. 44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear. 45 A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; 46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.