Chronological
43 A’r newyn oedd drwm yn y wlad. 2 A bu, wedi iddynt fwyta yr ŷd a ddygasent o’r Aifft, ddywedyd o’u tad wrthynt hwy, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth. 3 A Jwda a atebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi. 4 Os anfoni ein brawd gyda ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth. 5 Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y gŵr a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi. 6 Ac Israel a ddywedodd, Paham y drygasoch fi, gan fynegi i’r gŵr fod i chwi eto frawd? 7 Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr amdanom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi eto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered? 8 Jwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyda mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a’n plant hefyd. 9 Myfi a fechnïaf amdano ef; o’m llaw i y gofynni ef: onis dygaf ef atat ti, a’i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i’th erbyn byth. 10 Canys, pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach. 11 Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymerwch o ddewis ffrwythau’r wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i’r gŵr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau. 12 Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny. 13 Hefyd cymerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y gŵr. 14 A Duw Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gŵr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: minnau fel y’m diblantwyd, a ddiblentir.
15 A’r gwŷr a gymerasant yr anrheg honno, a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i’r Aifft, a safasant gerbron Joseff. 16 A Joseff a ganfu Benjamin gyda hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i’r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwyta gyda myfi ar hanner dydd. 17 A’r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Joseff: a’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff. 18 A’r gwŷr a ofnasant, pan dducpwyd hwynt i dŷ Joseff; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y ducpwyd nyni i mewn; i fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i’n cymryd ni yn gaethion, a’n hasynnod hefyd. 19 A hwy a nesasant at y gŵr oedd olygwr ar dŷ Joseff, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ, 20 Ac a ddywedasant, Fy arglwydd, gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth. 21 A bu, pan ddaethom i’r llety, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob un yng ngenau ei sach; ein harian ni, meddaf, yn ei bwys: ond ni a’i dygasom eilwaith yn ein llaw. 22 Dygasom hefyd arian arall i waered yn ein llaw, i brynu lluniaeth: nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffetanau. 23 Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich Duw chwi, a Duw eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi ataf fi. Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy. 24 A’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff, ac a roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed; ac efe a roddes ebran i’w hasynnod hwynt. 25 Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd: oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara.
26 Pan ddaeth Joseff i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ, ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr. 27 Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd, ac a ddywedodd, Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi, yr hwn y soniasoch amdano? ai byw efe eto? 28 Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni: byw yw efe eto. Yna yr ymgrymasant, ac yr ymostyngasant. 29 Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mab ei fam ei hun; ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, Duw a roddo ras i ti, fy mab. 30 A Joseff a frysiodd, (oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i’r ystafell, ac a wylodd yno. 31 Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymataliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara. 32 Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i’r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai’r Eifftiaid fwyta bara gyda’r Hebreaid; oherwydd ffieidd‐dra oedd hynny gan yr Eifftiaid. 33 Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf‐anedig yn ôl ei gyntafenedigaeth, a’r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid: a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd. 34 Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef.
44 Ac efe a orchmynnodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef, gan ddywedyd, Llanw sachau’r gwŷr o fwyd, cymaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pob un yng ngenau ei sach. 2 A dod fy nghwpan fy hun, sef y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuangaf, gydag arian ei ŷd ef. Yntau a wnaeth yn ôl gair Joseff, yr hwn a ddywedasai efe. 3 Y bore a oleuodd, a’r gwŷr a ollyngwyd ymaith, hwynt a’u hasynnod. 4 Hwythau a aethant allan o’r ddinas. Ac nid aethant nepell, pan ddywedodd Joseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ôl y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda? 5 Onid dyma’r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.
6 Yntau a’u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy. 7 Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth. 8 Wele, ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di? 9 Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwpan gydag ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i’m harglwydd. 10 Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddieuog. 11 Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffetan. 12 Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a’r cwpan a gafwyd yn sach Benjamin. 13 Yna y rhwygasant eu dillad, ac a byniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i’r ddinas.
14 A daeth Jwda a’i frodyr i dŷ Joseff, ac efe eto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef. 15 A dywedodd Joseff wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gŵr fel myfi ddewiniaeth? 16 A dywedodd Jwda, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd Duw allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i’m harglwydd, ie nyni, a’r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd. 17 Yntau a ddywedodd, Na ato Duw i mi wneuthur hyn: y gŵr y cafwyd y cwpan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fyny, mewn heddwch, at eich tad.
18 Yna yr aeth Jwda ato ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, atolwg, dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharo. 19 Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd? 20 Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen ŵr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a’i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef; a’i dad sydd hoff ganddo ef. 21 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered ataf fi, fel y gosodwyf fy llygaid arno. 22 A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llanc ni ddichon ymadael â’i dad: oblegid os ymedy efe â’i dad, marw fydd ei dad. 23 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy. 24 Bu hefyd, wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd. 25 A dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth. 26 Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyda ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gŵr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyda ni. 27 A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi; 28 Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn: 29 Os cymerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg, a digwyddo niwed iddo ef; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd. 30 Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llanc gyda ni; (gan fod ei hoedl ef ynglŷn wrth ei hoedl yntau;) 31 Yna pan welo efe na ddaeth y llanc, marw fydd efe; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd. 32 Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llanc i’m tad, gan ddywedyd, Onis dygaf ef atat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth. 33 Gan hynny weithian, atolwg,arhoseddy was dros y llanc, yn was i’m harglwydd; ac aed y llanc i fyny gyda’i frodyr: 34 Oblegid pa fodd yr af i fyny at fy nhad, a’r llanc heb fod gyda mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.
45 Yna Joseff ni allodd ymatal gerbron y rhai oll oedd yn sefyll gydag ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gydag ef, pan ymgydnabu Joseff â’i frodyr. 2 Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu’r Eifftiaid, a chlybu tŷ Pharo. 3 A Joseff a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Joseff: ai byw fy nhad eto? A’i frodyr ni fedrent ateb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef. 4 Joseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, atolwg, ataf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseff eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aifft. 5 Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi. 6 Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi. 7 A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared. 8 Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft. 9 Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseff: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda: 10 A chei drigo yng ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt: 11 Ac yno y’th borthaf; (oblegid pum mlynedd o’r newyn a fydd eto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt. 12 Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych. 13 Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aifft, a’r hyn oll a welsoch; brysiwch hefyd, a dygwch fy nhad i waered yma. 14 Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin, ac a wylodd; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau. 15 Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ôl hynny ei frodyr a ymddiddanasant ag ef.
16 A’r gair a ddaeth i dŷ Pharo, gan ddywedyd, Brodyr Joseff a ddaethant: a da oedd hyn yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei weision. 17 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Dywed wrth dy frodyr, Gwnewch hyn; Llwythwch eich ysgrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlad Canaan; 18 A chymerwch eich tad, a’ch teuluoedd, a deuwch ataf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aifft, a chewch fwyta braster y wlad. 19 Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hyn: cymerwch i chwi o wlad yr Aifft gerbydau i’ch rhai bach, ac i’ch gwragedd; a chymerwch eich tad, a deuwch. 20 Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn; oblegid da holl wlad yr Aifft sydd eiddo chwi. 21 A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Joseff iddynt hwy gerbydau, yn ôl gorchymyn Pharo, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd. 22 I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad. 23 Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd. 24 Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.
25 Felly yr aethant i fyny o’r Aifft, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob; 26 Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseff eto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu. 27 Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseff, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseff i’w ddwyn ef, yna y bywiogodd ysbryd Jacob eu tad hwynt. 28 A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Joseff fy mab eto yn fyw: af, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.