Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Job 17-20

17 Fy anadl a lygrwyd, fy nyddiau a ddiffoddwyd, beddau sydd barod i mi. Onid oes watwarwyr gyda mi? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt? Dyro i lawr yn awr, dyro i mi feichiau gyda thi: pwy ydyw efe a dery ei law yn fy llaw i? Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni ddyrchefi di hwynt. Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant. Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl, ac o’r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt. Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd, ac y mae fy aelodau oll fel cysgod. Y rhai uniawn a synnant am hyn; a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr. Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder. 10 Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi. 11 Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon. 12 Gwnânt y nos yn ddydd: byr yw y goleuni, oherwydd tywyllwch. 13 Os disgwyliaf, y bedd sydd dŷ i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely. 14 Gelwais ar y pwll, Tydi yw fy nhad: ar y pryf, Fy mam a’m chwaer wyt. 15 A pha le yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith? 16 Disgynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch.

18 A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, Pa bryd y derfydd eich ymadrodd? ystyriwch, wedi hynny ninnau a lefarwn. Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi? O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear? neu y symudir y graig allan o’i lle? Ie, goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha. Goleuni a dywylla yn ei luesty ef; a’i lusern a ddiffydd gydag ef. Camre ei gryfder ef a gyfyngir, a’i gyngor ei hun a’i bwrw ef i lawr. Canys efe a deflir i’r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe. Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a’r gwylliad fydd drech nag ef. 10 Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr. 11 Braw a’i brawycha ef o amgylch, ac a’i gyr i gymryd ei draed. 12 Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys. 13 Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf‐anedig angau a fwyty ei gryfder ef. 14 Ei hyder ef a dynnir allan o’i luesty: a hynny a’i harwain ef at frenin dychryniadau. 15 Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef. 16 Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a’i frig a dorrir oddi arnodd. 17 Ei goffadwriaeth a gollir o’r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol. 18 Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o’r byd. 19 Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef. 20 Y rhai a ddêl ar ei ôl, a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef; a’r rhai o’r blaen a gawsant fraw. 21 Yn wir, dyma drigleoedd yr anwir; a dyma le y dyn nid edwyn Dduw.

19 A Job a atebodd ac a ddywedodd, Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y’m drylliwch â geiriau? Dengwaith bellach y’m gwaradwyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn. Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig fy amryfusedd. Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd i’m herbyn: Gwybyddwch yn awr mai Duw a’m dymchwelodd i, ac a’m hamgylchodd â’i rwyd. Wele, llefaf rhag trawster, ond ni’m hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn. Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau. Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen. 10 Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren. 11 Gwnaeth hefyd i’w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a’m cyfrifodd iddo fel un o’i elynion. 12 Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell. 13 Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a’r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf. 14 Fy nghyfnesaf a ballasant, a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant. 15 Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a’m morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg. 16 Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â’m genau. 17 Dieithr oedd fy anadl i’m gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o’m corff. 18 Plant hefyd a’m diystyrent: cyfodais, a dywedasant i’m herbyn. 19 Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn. 20 Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais. 21 Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw Duw a gyffyrddodd â mi. 22 Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw, heb gael digon ar fy nghnawd? 23 O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr! 24 O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm! 25 Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear. 26 Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha’r corff hwn, eto caf weled Duw yn fy nghnawd: 27 Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a’m llygaid a’i gwelant, ac nid arall; er i’m harennau ddarfod ynof. 28 Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof. 29 Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.

20 Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd, Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf. Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb. Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear, Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr? Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd, a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau; Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a’i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe? Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos. Y llygad a’i gwelodd, ni wêl ef mwy: a’i le ni chenfydd mwy ohono. 10 Ei feibion a gais fodloni’r tlodion: a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt. 11 Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd. 12 Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod; 13 Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau: 14 Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef. 15 Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a’i chwyda: Duw a’i tyn allan o’i fol ef. 16 Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a’i lladd ef. 17 Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn. 18 Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono. 19 Am iddo ddryllio, a gado’r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd; 20 Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o’r hyn a ddymunodd. 21 Ni bydd gweddill o’i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef. 22 Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno. 23 Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd. 24 Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a’r bwa dur a’i trywana ef. 25 Efe a dynnir, ac a ddaw allan o’r corff, a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef; dychryn fydd arno. 26 Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tân heb ei chwythu a’i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir. 27 Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef. 28 Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef. 29 Dyma ran dyn annuwiol gan Dduw; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan Dduw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.