Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 7-9

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwêl, mi a’th wneuthum yn dduw i Pharo: ac Aaron dy frawd fydd yn broffwyd i tithau. Ti a leferi yr hyn oll a orchmynnwyf i ti; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharo, ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o’i wlad. A minnau a galedaf galon Pharo, ac a amlhaf fy arwyddion a’m rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft. Ond ni wrendy Pharo arnoch: yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aifft; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel, o wlad yr Aifft, trwy farnedigaethau mawrion. A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan estynnwyf fy llaw ar yr Aifft, a dwyn meibion Israel allan o’u mysg hwynt. A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddynt; ie, felly y gwnaethant. A Moses ydoedd fab pedwar ugain mlwydd, ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain, pan lefarasant wrth Pharo.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd, Pan lefaro Pharo wrthych, gan ddywedyd, Dangoswch gennych wyrthiau; yna y dywedi wrth Aaron, Cymer dy wialen, a bwrw hi gerbron Pharo; a hi a â yn sarff.

10 A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharo, ac a wnaethant felly, megis y gorchmynasai yr Arglwydd: ac Aaron a fwriodd ei wialen gerbron Pharo, a cherbron ei weision; a hi a aeth yn sarff. 11 A Pharo hefyd a alwodd am y doethion, a’r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aifft, a wnaethant felly trwy eu swynion. 12 Canys bwriasant bob un ei wialen; a hwy a aethant yn seirff: ond gwialen Aaron a lyncodd eu gwiail hwynt. 13 A chalon Pharo a galedodd, fel na wrandawai arnynt hwy; megis y llefarasai yr Arglwydd.

14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Caledodd calon Pharo; gwrthododd ollwng y bobl ymaith. 15 Dos at Pharo yn fore: wele efe a ddaw allan i’r dwfr; saf dithau ar lan yr afon erbyn ei ddyfod ef; a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff. 16 A dywed wrtho ef, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a’m hanfonodd atat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit. 17 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: wele, myfi â’r wialen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon, fel y troer hwynt yn waed. 18 A’r pysg sydd yn yr afon a fyddant feirw, a’r afon a ddrewa; a bydd blin gan yr Eifftiaid yfed dwfr o’r afon.

19 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Cymer dy wialen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aifft, ar eu ffrydiau, ar eu hafonydd, ac ar eu pyllau, ac ar eu holl lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft, yn eu llestri coed a cherrig hefyd. 20 A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchmynnodd yr Arglwydd: ac efe a gododd ei wialen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon, yng ngŵydd Pharo, ac yng ngŵydd ei weision; a’r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a drowyd yn waed. 21 A’r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a’r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Eifftiaid yfed dwfr o’r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aifft. 22 A swynwyr yr Aifft a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharo, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd. 23 A Pharo a drodd ac a aeth i’w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon. 24 A’r holl Eifftiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i’w yfed; canys ni allent yfed o ddwfr yr afon. 25 A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i’r Arglwydd daro’r afon.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. Ac os gwrthodi eu gollwng, wele, mi a drawaf dy holl derfynau di â llyffaint. A’r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i’th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill. A’r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.

Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â’th wialen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fyny ar hyd tir yr Aifft. Ac Aaron a estynnodd ei law ar ddyfroedd yr Aifft; a’r llyffaint a ddaethant i fyny, ac a orchuddiasant dir yr Aifft. A’r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fyny lyffaint ar wlad yr Aifft.

Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr Arglwydd, ar iddo dynnu’r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i’r Arglwydd. A Moses a ddywedodd wrth Pharo, Cymer ogoniant arnaf fi; Pa amser y gweddïaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa’r llyffaint oddi wrthyt, ac o’th dai, a’u gadael yn unig yn yr afon? 10 Ac efe a ddywedodd, Yfory. A dywedodd yntau, Yn ôl dy air y bydd; fel y gwypech nad oes neb fel yr Arglwydd ein Duw ni. 11 A’r llyffaint a ymadawant â thi, ac â’th dai, ac â’th weision, ac â’th bobl; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt. 12 A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharo. A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharo. 13 A’r Arglwydd a wnaeth yn ôl gair Moses; a’r llyffaint a fuant feirw o’r tai, o’r pentrefydd, ac o’r meysydd. 14 A chasglasant hwynt yn bentyrrau; fel y drewodd y wlad. 15 Pan welodd Pharo fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

16 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy wialen, a tharo lwch y ddaear, fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aifft. 17 Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â’i wialen, ac a drawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aifft. 18 A’r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu’r llau ar ddyn ac ar anifail. 19 Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharo, Bys Duw yw hyn: a chaledwyd calon Pharo, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

20 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo; wele, efe a ddaw allan i’r dwfr: yna dywed wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. 21 Oherwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th dai, gymysgbla: a thai’r Eifftiaid a lenwir o’r gymysgbla, a’r ddaear hefyd yr hon y maent arni. 22 A’r dydd hwnnw y neilltuaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo’r gymysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd yng nghanol y ddaear. 23 A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a’th bobl di: yfory y bydd yr arwydd hwn. 24 A’r Arglwydd a wnaeth felly; a daeth cymysgbla drom i dŷ Pharo, ac i dai ei weision, ac i holl wlad yr Aifft; a llygrwyd y wlad gan y gymysgbla.

25 A Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, aberthwch i’ch Duw yn y wlad. 26 A dywedodd Moses, Nid cymwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw ffieiddbeth yr Eifftiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Eifftiaid yng ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni? 27 Taith tridiau yr awn i’r anialwch, a nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw, megis y dywedo efe wrthym ni. 28 A dywedodd Pharo, Mi a’ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i’r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch; ond nac ewch ymhell: gweddïwch trosof fi. 29 A dywedodd Moses, Wele, myfi a af allan oddi wrthyt, ac a weddïaf ar yr Arglwydd, ar gilio’r gymysgbla oddi wrth Pharo, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl, yfory: ond na thwylled Pharo mwyach, heb ollwng ymaith y bobl i aberthu i’r Arglwydd. 30 A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr Arglwydd. 31 A gwnaeth yr Arglwydd yn ôl gair Moses: a’r gymysgbla a dynnodd efe ymaith oddi wrth Pharo, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl; ni adawyd un. 32 A Pharo a galedodd ei galon y waith honno hefyd, ac ni ollyngodd ymaith y bobl.

Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto, Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn. A’r Arglwydd a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel. A gosododd yr Arglwydd amser nodedig, gan ddywedyd, Yfory y gwna’r Arglwydd y peth hyn yn y wlad. A’r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Eifftiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un. A Pharo a anfonodd; ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharo a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses ac wrth Aaron, Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tua’r nefoedd yng ngŵydd Pharo: Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aifft. 10 A hwy a gymerasant ludw y ffwrn, ac a safasant gerbron Pharo: a Moses a’i taenodd tua’r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail. 11 A’r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Eifftiaid. 12 A’r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai’r Arglwydd wrth Moses.

13 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. 14 Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear. 15 Oherwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a’th drawaf di a’th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear. 16 Ac yn ddiau er mwyn hyn y’th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy’r holl ddaear. 17 A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith? 18 Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o’r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon. 19 Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a’r y sydd i ti yn y maes: pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw. 20 Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharo, a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai; 21 A’r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd, a adawodd ei weision a’i anifeiliaid yn y maes.

22 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd; fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aifft. 23 A Moses a estynnodd ei wialen tua’r nefoedd: a’r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysg, a’r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr Arglwydd genllysg ar dir yr Aifft. 24 Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg, yn flin iawn; yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft, er pan ydoedd yn genhedlaeth. 25 A’r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aifft, gwbl a’r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes. 26 Yn unig yng ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.

27 A Pharo a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minnau a’m pobl yn annuwiol. 28 Gweddïwch ar yr Arglwydd (canys digon yw hyn) na byddo taranau Duw na chenllysg; a mi a’ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hwy. 29 A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o’r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr Arglwydd: a’r taranau a beidiant, a’r cenllysg ni bydd mwy; fel y gwypych mai yr Arglwydd biau y ddaear. 30 Ond mi a wn nad wyt ti eto, na’th weision, yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw. 31 A’r llin a’r haidd a gurwyd; canys yr haidd oedd wedi hedeg, a’r llin wedi hadu: 32 A’r gwenith a’r rhyg ni churwyd; oherwydd diweddar oeddynt hwy. 33 A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yr Arglwydd; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear. 34 A phan welodd Pharo beidio o’r glaw, a’r cenllysg, a’r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a’i weision. 35 A chaledwyd calon Pharo, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.