Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 36-38

36 Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cysegr, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd. A Moses a alwodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i’w weithio ef. A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr, i’w weithio ef. A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore. A’r holl rai celfydd, a’r oedd yn gweithio holl waith y cysegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.

A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae’r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i’r gwaith a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur. A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy’r gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuag at offrwm y cysegr. Felly yr ataliwyd y bobl rhag dwyn mwy. Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith i’w wneuthur, a gweddill.

A’r holl rai celfydd, o’r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt. Hyd un llen oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llen pedwar cufydd: yr un mesur oedd i’r holl lenni. 10 Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pum llen eraill wrth ei gilydd. 11 Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar ei chwr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall, yng nghydiad yr ail. 12 Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwr eithaf i’r llen ydoedd yng nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall. 13 Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill len wrth y llall â’r bachau; fel y byddai yn un tabernacl.

14 Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt. 15 Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llen oedd bedwar cufydd: a’r un mesur oedd i’r un llen ar ddeg. 16 Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain, a chwe llen wrthynt eu hunain. 17 Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail. 18 Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell‐len i fod yn un. 19 Ac efe a wnaeth do i’r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.

20 Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll. 21 Deg cufydd oedd hyd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen. 22 Dau dyno oedd i’r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl. 23 Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl; ugain ystyllen i’r tu deau, tua’r deau. 24 A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno. 25 Ac i ail ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, efe a wnaeth ugain ystyllen, 26 A’u deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall. 27 Ac i ystlysau’r tabernacl, tua’r gorllewin, y gwnaeth efe chwech ystyllen. 28 A dwy ystyllen a wnaeth efe yng nghonglau’r tabernacl i’r ddau ystlys. 29 Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl. 30 Ac yr oedd wyth ystyllen; a’u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian: dwy fortais dan bob ystyllen.

31 Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl, 32 A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod y tabernacl i’r ystlysau o du’r gorllewin. 33 Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy’r ystyllod o gwr i gwr. 34 Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau ag aur.

35 Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi. 36 Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur; a’u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.

37 Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd; 38 A’i phum colofn, a’u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a’u cylchau, ag aur: ond eu pum mortais oedd o bres.

37 A Besaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder. Ac a’i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch. Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall. Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. Ac a osododd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.

Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled. Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa; Un ceriwb ar y pen o’r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o’r tu arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi. A’r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuag i fyny, a’u hesgyll yn gorchuddio’r drugareddfa, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau’r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.

10 Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder. 11 Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch. 12 Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch. 13 Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed. 14 Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i’r trosolion i ddwyn y bwrdd. 15 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd. 16 Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i ffiolau, a’i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.

17 Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, oedd o’r un. 18 A chwech o geinciau yn myned allan o’i ystlysau: tair cainc o’r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o’r canhwyllbren o’r ystlys arall. 19 Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyllbren. 20 Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a’i flodau. 21 A chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono. 22 Eu cnapiau a’u ceinciau oedd o’r un: y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth. 23 Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a’i efeiliau, a’i gafnau, o aur pur. 24 O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a’i holl lestri.

25 Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim: o gufydd ei hyd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o’r un. 26 Ac efe a’i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch. 27 Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i’w dwyn arnynt. 28 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt ag aur.

29 Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd, a’r arogl‐darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.

38 Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei lled, yn bedeirongl; ac yn dri chufydd ei huchder. Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o’r un; ac efe a’i gwisgodd hi â phres. Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, a’r cigweiniau, a’r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres. Ac efe a wnaeth i’r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi. Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres, i fyned am drosolion. Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt â phres. Ac efe a dynnodd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr allor, i’w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.

Ac efe a wnaeth noe bres, a’i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.

Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys deau, tua’r deau, llenni’r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd, o gan cufydd: 10 A’u hugain colofn, ac a’u hugain mortais, o bres: a phennau’r colofnau a’u cylchau, o arian yr oeddynt. 11 Ac ar du’r gogledd, y llenni oedd gan cufydd; eu hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres: a phennau’r colofnau a’u cylchau o arian. 12 Ac o du’r gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a’u deg mortais, a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian. 13 Ac i du’r dwyrain tua’r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain. 14 Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o’r naill du i’r porth; eu tair colofn, a’u tair mortais. 15 Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, oddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a’u tair mortais. 16 Holl lenni’r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd. 17 A morteisiau’r colofnau, oedd o bres; pennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian; a holl golofnau’r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian. 18 A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hyd, a’i huchder o’i lled yn bum cufydd, ar gyfer llenni’r cynteddfa. 19 Eu pedair colofn hefyd, a’u pedair mortais, oedd o bres; a’u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a’u cylchau oedd arian. 20 A holl hoelion y tabernacl, a’r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres.

21 Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad. 22 A Besaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Jwda, a wnaeth yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses. 23 A chydag ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwniedydd mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main. 24 Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cysegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gan sicl a deg ar hugain, yn ôl sicl y cysegr. 25 Ac arian y rhai a gyfrifwyd o’r gynulleidfa, oedd gan talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, yn ôl sicl y cysegr. 26 Beca am bob pen; sef hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod: sef am chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain. 27 Ac o’r can talent arian y bwriwyd morteisiau’r cysegr, a morteisiau’r wahanlen; can mortais o’r can talent, talent i bob mortais. 28 Ac o’r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, y gwnaeth efe bennau’r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt. 29 A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thrigain, a dwy fil a phedwar cant o siclau. 30 Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a’r allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri’r allor; 31 A morteisiau’r cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.