Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Lefiticus 8-10

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Cymer Aaron a’i feibion gydag ef, a’r gwisgoedd, ac olew yr eneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw: A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod. A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod. A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa, Dyma’r peth a orchmynnodd’ yr Arglwydd ei wneuthur. A Moses a ddug Aaron a’i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr. Ac efe a roddes amdano ef y bais, ac a’i gwregysodd ef â’r gwregys, ac a wisgodd y fantell amdano, ac a roddes yr effod amdano, ac a’i gwregysodd â gwregys cywraint yr effod, ac a’i caeodd amdano ef. Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a’r Thummim yn y ddwyfronneg. Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchmynasai’r Arglwydd i Moses. 10 A Moses a gymerodd olew yr eneiniad, ac a eneiniodd y tabernacl, a’r hyn oll oedd ynddo; ac a’u cysegrodd hwynt. 11 Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith, ac a eneiniodd yr allor a’i holl lestri, a’r noe hefyd a’i throed, i’w cysegru. 12 Ac efe a dywalltodd o olew’r eneiniad ar ben Aaron, ac a’i heneiniodd ef, i’w gysegru. 13 A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau amdanynt, a gwregysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses. 14 Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod; 15 Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cysegrodd hi, i wneuthur cymod arni. 16 Efe a gymerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u gwêr; a Moses a’i llosgodd ar yr allor. 17 A’r bustach, a’i groen, a’i gig, a’i fiswail, a losgodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwersyll: fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

18 Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd: 19 Ac efe a’i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch. 20 Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a’r gwêr. 21 Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor. Poethoffrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses.

22 Ac efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cysegriad: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd. 23 Ac efe a’i lladdodd; a Moses a gymerodd o’i waed, ac a’i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau. 24 Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o’r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau, ac ar fawd eu llaw ddeau, ac ar fawd eu troed deau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch. 25 Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr, a’r gloren, a’r holl wêr oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u braster, a’r ysgwyddog ddeau. 26 A chymerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd gerbron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a’u gosododd ar y gwêr, ac ar yr ysgwyddog ddeau: 27 Ac a roddes y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a’u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 28 A Moses a’u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysegriadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r Arglwydd. 29 Cymerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 30 A chymerodd Moses o olew yr eneiniad, ac o’r gwaed oedd ar yr allor, ac a’i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gysegrodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef.

31 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwytewch ef, a’r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau; megis y gorchmynnais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwyty ef. 32 A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân. 33 Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysegriadau: oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cysegru chwi. 34 Megis y gwnaeth efe heddiw, y gorchmynnodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur cymod drosoch. 35 Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchmynnwyd. 36 A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchmynnodd yr Arglwydd trwy law Moses.

Yna y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel; Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, o rai perffaith‐gwbl, a dwg hwy gerbron yr Arglwydd. Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, blwyddiaid, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm; Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr Arglwydd; a bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddiw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.

A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a’r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr Arglwydd. A dywedodd Moses, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi. Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.

Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun. A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor. 10 Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwêr a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 11 A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll. 12 Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch. 13 A dygasant y poethoffrwm ato, gyda’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor. 14 Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor.

15 Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf. 16 Ac efe a ddug y poethoffrwm, ac a’i hoffrymodd yn ôl y ddefod. 17 Ac efe a ddug y bwyd‐offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a’i llosgodd ar yr allor, heblaw poethoffrwm y bore. 18 Ac efe a laddodd y bustach a’r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch. 19 Dygasant hefyd wêr y bustach a’r hwrdd, y gloren, a’r weren fol, a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu. 20 A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor. 21 Y parwydennau hefyd, a’r ysgwyddog ddeau, a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynnodd Moses. 22 A chododd Aaron ei law tuag at y bobl, ac a’u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a’r poethoffrwm, a’r ebyrth hedd. 23 A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl. 24 A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.

10 Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymerasant bob un ei thuser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl‐darth ar hynny; ac a offrymasant gerbron yr Arglwydd dân dieithr yr hwn ni orchmynasai efe iddynt. A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a’u difaodd hwynt; a buant feirw gerbron yr Arglwydd. A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma’r hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt ataf, a cherbron yr holl bobl y’m gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron. A galwodd Moses Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, Deuwch yn nes; dygwch eich brodyr oddi gerbron y cysegr, allan o’r gwersyll. A nesáu a wnaethant, a’u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o’r gwersyll; fel y llefarasai Moses. A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddiosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd. Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod; rhag i chwi farw: oherwydd bod olew eneiniad yr Arglwydd arnoch chwi. A gwnaethant fel y llefarodd Moses.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd, Gwin a diod gadarn nac yf di, na’th feibion gyda thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn: 10 A hynny er gwahanu rhwng cysegredig a digysegredig, a rhwng aflan a glân; 11 Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses.

12 A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar, y rhai a adawsid o’i feibion ef, Cymerwch y bwyd‐offrwm sydd yng ngweddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bwytewch yn groyw gerllaw yr allor: oherwydd sancteiddiolaf yw. 13 A bwytewch ef yn y lle sanctaidd: oherwydd dy ran di, a rhan dy feibion di, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yw hyn: canys fel hyn y’m gorchmynnwyd. 14 Y barwyden gyhwfan hefyd, a’r ysgwyddog ddyrchafael, a fwytewch mewn lle glân; tydi, a’th feibion, a’th ferched, ynghyd â thi: oherwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i’th feibion di, o ebyrth hedd meibion Israel. 15 Yr ysgwyddog ddyrchafael, a’r barwyden gyhwfan, a ddygant ynghyd ag ebyrth tanllyd o’r gwêr, i gyhwfanu offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: a bydded i ti, ac i’th feibion gyda thi, yn rhan dragwyddol; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.

16 A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd wrth Eleasar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd, 17 Paham na fwytasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; oherwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, gerbron yr Arglwydd? 18 Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr: ei fwyta a ddylasech yn y cysegr; fel y gorchmynnais. 19 A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddiw yr offrymasant eu haberth dros bechod, a’u poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd; ac fel hyn y digwyddodd i mi; am hynny os bwytawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd? 20 A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.